Ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol'

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:09, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am ymuno â mi'n ddiweddar mewn digwyddiad ar-lein lle roeddech yn bwrw iddi'n feddylgar iawn i ateb dwsinau o gwestiynau gan y cyhoedd ar adfer ac ailadeiladu ar ôl COVID? Felly, gan gydnabod yr heriau aruthrol cyn y pandemig a senarios 'cytundeb' neu 'dim cytundeb' yr UE, a heb fod yn Johnsonaidd a pharablu optimistiaeth ffantasïol am fod yn 'orau yn y byd', neu 'allan o'r byd hwn', a gyrru JCBs drwy waliau polystyren tila, a oes unrhyw nodyn gwirioneddol optimistaidd y gall ei roi i bobl Cymru—yn enwedig i bobl ifanc—ynglŷn â sut y down drwy hyn yn dda, a'i wneud mewn ffordd sy'n well ac yn decach i'n swyddi a'n heconomi, yn well i'n hamgylchedd, ac yn well ac yn decach i gymdeithas yn ei chyfanrwydd?