Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, rwy'n ategu pryder yr Aelod. Mae ein cyfeillion yn y sector dur yn dadlau'n barhaus, ac rydym ninnau'n derbyn eu dadl ac yn cytuno, y byddai'r math o senario y mae'n ei rhagweld yn niweidiol iawn i gynhyrchu dur yng Nghymru ac yn y DU. Gallaf ei sicrhau bod Gweinidog yr economi'n cael deialog barhaus â chynhyrchwyr dur yng Nghymru, ac ar draws yr economi mewn gwirionedd, mewn perthynas â sectorau eraill hefyd y gallai Brexit effeithio'n andwyol arnynt, a chanlyniadau gadael y cyfnod pontio Ewropeaidd heb gytundeb arwyddocaol sy'n canolbwyntio ar gefnogi bywoliaeth, yn canolbwyntio ar gefnogi'r sectorau sylfaenol hynny yn ein heconomi. Mae'r risgiau o wneud hynny'n sylweddol iawn ac mae'n parhau i drafod y materion hyn yn rheolaidd gyda chynhyrchwyr dur, a Llywodraeth y DU hefyd.