7. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro

Part of the debate – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM7418 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Douglas Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 ('y Mesur') ar 13 Tachwedd 2019.

2. Yn ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: 'Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro' ('yr adroddiad') yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain.

3. Yn addasu telerau penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.