Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr, heb os, ac mae yna waith manwl wedi cael ei wneud gan Aelodau a staff y pwyllgor yma. Mae o'n siomedig, er hynny, ein bod ni erbyn hyn wedi colli'r cyfle yn y Senedd hon i weithredu ar dystiolaeth gweithgor manwl iawn arall a gafwyd tua dechrau'r bumed Senedd, sef yr un dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Ychwanegu at y dystiolaeth o'r angen am gryfhau'r Senedd yma a chreu democratiaeth sy'n gynrychioladol o'r holl leisiau yng Nghymru—dyna mai'r adroddiad yn ei wneud mewn gwirionedd, yn hytrach na'n symud ni ymlaen yn gyflym.
Dwi'n credu bod yr achos busnes yn amlwg ac yn glir i ni gyd erbyn hyn a bod yr amser wedi dod ar gyfer gweithredu. Fel rydych chi'n gwybod, mi oedd Plaid Cymru eisiau inni weithredu ar unwaith yn ystod y Senedd hon, mewn ymateb i adroddiad Laura McAllister, ac fe wnaethon ni roi'r cyfle, drwy gyfrwng cynnig ar lawr y Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd, i'r perwyl hwnnw. Ar y pryd, fe wnaeth Llafur, am y tro cyntaf, gytuno mewn egwyddor fod angen cynyddu nifer yr Aelodau, ond doedden nhw ddim yn barod i ymrwymo i roi hynny ar waith ar y pryd. A'r Llywodraeth bresennol fydd yn rhaid ateb ynghylch pam y bu rhaid inni dreulio pum mlynedd ychwanegol gyda system fethedig. Mi fyddaf yn gwrando'n astud er mwyn clywed y bydd y Llywodraeth yn cefnogi yn ddiamwys y ddeddfwriaeth sydd ei hangen yn y Senedd nesaf.
Ers ei sefydlu, mae Senedd Cymru wedi bod yn flaengar fel deddfwrfa lle'r oedd cydraddoldeb wedi'i ysgrifennu mewn i'r DNA o'r cychwyn cyntaf, ond, yn amlwg, mae yna lawer iawn mwy o waith i'w wneud, ac am hynny, mae'r cyfrifoldeb ar ein Senedd fodern ni i arwain y ffordd unwaith yn rhagor i sicrhau bod y Senedd yn cynrychioli Cymru yn ei holl amrywiaeth. Os ydym ni'n barod i arddel yr enw 'Senedd', mae'n rhaid i ninnau fel ein cenedl fodern ac amrywiol fod yn Senedd i bawb yng Nghymru ac yn Senedd i Gymru gyfan. All yr holl gyfrifoldeb yma ddim syrthio ar bleidiau gwleidyddol yn unig. Mae'n amlwg bod angen elfen o weithredu cadarnhaol i wireddu'r nod. Mae yna rai camau bychain ond rhai digon clodwiw yn cael eu hargymell yn yr adroddiad: system o gasglu data ar amrywiaeth rhestr ymgeiswyr pob plaid wleidyddol, cronfa i gefnogi pobl ag anableddau, er enghraifft, i gefnogi ethol rhai o'r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli i swydd gyhoeddus. Ond mae angen mynd ymhellach.
Rhannu swyddi—rydych chi wedi fy nghlywed i'n trafod hyn o'r blaen. Dwi ddim yn meddwl bod ishio gweithgor arall i edrych ar hyn. Dylai'r ffocws o'r cychwyn yn y Senedd nesaf fod ar weithredu hyn i mewn i gyfraith. Mae'r dystiolaeth eisoes yn bodoli. Ac mi fyddwn i'n awyddus i weld cynnwys cwotâu statudol i sicrhau cynrychiolaeth briodol i ferched a phobl o liw yn y ddeddfwriaeth newydd.
Does dim rhaid inni aros tan y Senedd nesaf cyn cychwyn gweithredu. Mae ffenest a chyfle hyd yn oed yn yr amserlen ddeddfwriaethol sy'n weddill o'r Senedd hon inni gymryd camau tuag at wneud democratiaeth Cymru yn fwy cynhwysol ac yn fwy cydradd, a hynny ar lefel llywodraeth leol. Mae Delyth Jewell wedi cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod ar hyn o bryd ynglŷn â llywodraeth leol, ac mi fyddai pasio'r gwelliannau yn golygu cyflwyno STV i bob cyngor yn ddieithriad ynghyd â mesurau eraill i warchod hawliau mamolaeth cynghorwyr a sicrhau nad oes posib cael cabinet o ddynion yn unig. Dwi'n mawr obeithio y bydd y camau bychain hynny yn cael cefnogaeth y Llywodraeth ac y byddwn ni'n gallu symud hyd yn oed rŵan yn y Senedd yma ychydig bach o'r ffordd tuag at fod yn Senedd wir gynhwysol, wir gydradd.