8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd — 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:28, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith caled iawn. Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ac fel y mae pawb wedi dweud, mae COVID-19 wedi amharu'n llwyr ar ein prosesau ac wedi cael blaenoriaeth ym mhob un o'n llwythi gwaith. Ond mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail lle mae pob un ohonom dan straen, mae'r pwyllgor wedi cynhyrchu adroddiad cynhwysfawr iawn a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Gadeirydd y pwyllgor, Dawn Bowden, am ei hymrwymiad a'i gwaith caled yn hyn o beth.

Mae'r diwygiadau y soniwn amdanynt eisoes ar y gweill wrth gwrs. Bydd etholiadau'r Senedd yn 2021, am y tro cyntaf yng Nghymru, yn rhai lle bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys yn gallu chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth. Mae'r pwyllgor wedi amlinellu nifer o argymhellion i helpu'r Senedd i fod yn fwy amrywiol ac i gynrychioli'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n well. Mae llawer o'r argymhellion hynny i'r Senedd nesaf eu hystyried, ond mae'r pwyllgor hefyd wedi nodi ychydig o faterion mwy uniongyrchol, a heddiw, Lywydd dros dro, oherwydd diffyg amser, cyfyngaf fy sylwadau i'r rheini.

Rwy'n croesawu'n arbennig argymhellion y pwyllgor ar alluogi pobl anabl i sefyll mewn etholiad. Rydym wedi bod yn gweithio ar ein hagenda amrywiaeth a democratiaeth ers 2018. Rydym yn gweithredu ar hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth yr hydref hwn i eithrio gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd o derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. Ac yn ail, rydym yn sefydlu cronfa beilot 'mynediad at swyddi etholedig'. Bydd yn rhoi cymorth ariannol i helpu pobl anabl i sefyll mewn etholiad, a bydd ar agor ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn ogystal ag ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Drwy ddileu rhwystrau fel hyn, ein nod yw helpu i greu Senedd lawer mwy amrywiol a chynrychioliadol.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion cysylltiedig eraill y credaf eu bod yn eithriadol o bwysig. Rydym eisoes wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch cychwyn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, pan gafodd ei wneud gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion ynghylch eithriadau gwariant ehangach a chymorth ariannol i helpu grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Nid yw'r syniad o Senedd fwy o faint yn un newydd, ac fel y mae pawb wedi nodi, cafodd ei argymell gan gomisiwn Richard yn 2004 a'r panel arbenigol annibynnol yn 2017. Rhoddodd y refferendwm yn 2011 hwb ysgubol i'r sefydliad hwn, ac nid wyf yn credu bod angen i ni ei ailystyried, fel y mae nifer o bobl sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon wedi ceisio'i wneud.

Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ystyriaeth y pwyllgor ac unwaith eto hoffai ddiolch iddynt am lunio eu hadroddiad er gwaethaf yr amgylchiadau heriol iawn.

Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd dros dro, ar adegau o argyfwng y byddwn yn gweld yn fwyaf amlwg yr angen am Senedd gref a chynrychioliadol i'n cenedl. Mae gwaith y pwyllgor yn cyfrannu'n sylweddol at hynny, ac rwy'n talu teyrnged iddynt. Diolch yn fawr.