Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Y pwynt roeddwn yn ei wneud yw bod angen mwy o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig ar wahân i ryw weithio'n ymarferol. Ac mae angen cymorth ariannol i bobl ag anableddau sydd am sefyll mewn etholiad, gan newid y rheolau fel nad yw gwariant o ganlyniad i anabledd neu ofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. A lle gall pleidiau fwrw ymlaen a gwneud y pethau hyn, dylent wneud hynny'n wirfoddol, ond lle mae angen deddfwriaeth ac o fewn ein pwerau, yn amodol ar eglurhad gyda Llywodraeth y DU, dylem weithio tuag at hyn hefyd.
Ond tan 2026, byddwn yn byw gyda chweched Senedd 60 Aelod, doed a ddelo. Felly, bydd angen mesurau dros dro ar frys i helpu'r 60 Aelod sydd eisoes dan bwysau i gyflawni eu rolau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol yn effeithiol. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir ein bod eisoes wedi gwneud llawer o addasiadau ar gyfer y llwyth gwaith cynyddol yn ystod Senedd heb bwerau digonol ac wrth symud ymlaen i'r chweched Senedd, gallai hyn fod â goblygiadau anodd i batrymau gwaith y Senedd a rhai canlyniadau anfwriadol, nid yn unig o ran ansawdd ein gwaith ond o ran y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y mae'r Cynulliad hwn yn falch o anelu tuag at ei gyflawni. Ond efallai y bydd modd dysgu gwersi o ffyrdd newydd o weithio a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig COVID i roi cynnig ar opsiynau eraill rhwng nawr a diwedd y pumed Senedd. Nawr, mae llawer mwy i'w drafod nag y gellir ei drafod mewn pum munud, felly cyfeiriaf at fy sylw cynharach: darllenwch yr adroddiad yn fanwl; mae'n rymus.
Ond yn fy sylwadau olaf, hoffwn drafod i ble yr awn o'r fan hon, ac mae hyn i gyd yn dibynnu ar ewyllys y lle hwn ar hyn o bryd, ond hefyd ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r pwyllgor wedi ceisio bod o wasanaeth i'r Senedd drwy fapio'n glir iawn yr amserlenni tynn ar gyfer gweithredu'r diwygiadau mawr hyn mewn pryd ar gyfer yr etholiadau i'r seithfed Senedd. Maent yn heriol, gyda cherrig milltir allweddol i'w cyflawni a phenderfyniadau i'w gwneud yn ystod y misoedd cyntaf, heb sôn am ddwy flynedd gyntaf y Senedd nesaf. A bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair i gyflawni'r diwygiadau mawr hyn. Mae'r rhain yn fynyddoedd uchel i'w dringo, ond hyd yn oed cyn inni gyrraedd y mynyddoedd uchel hynny mae cadwyn gyfan arall i'w goresgyn, ac mae hynny'n galw ar arweinyddiaeth y prif bleidiau gwleidyddol—pob un ohonynt—i fod yn barod i fynd â'r materion hyn yn ôl at eu pleidiau eu hunain, eu trafod a dod i gasgliad. I Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, rwy'n tybio y bydd y mynyddoedd hynny'n edrych yn gymharol fach. I fy mhlaid fy hun, byddwn yn gweld rhai uchelfannau'n codi o'n blaenau. Credaf y gallai'r Blaid Geidwadol fod wedi penderfynu eisoes i beidio â thrafferthu o dan yr arweinyddiaeth bresennol—nid wyf yn gwybod—ac mae eraill amrywiol eisoes wedi cefnu ar yr her, neu hyd yn oed ar Gymru neu'r Senedd yn barod.
Ond yn y pen draw, Lywydd dros dro, mae ein pwyllgor wedi gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud. Gwnaethom y penderfyniad yn gynnar fel pwyllgor, gyda llaw, ac rwy'n cymeradwyo hynny, i gyfyngu ar ein gweithgareddau wrth gydnabod bod ymateb i'r feirws o'r pwys mwyaf. Ond ar ôl cwblhau ein gwaith gystal ag y gallwn o dan yr amgylchiadau anodd hyn, ac ar ôl dod i gasgliadau clir, rydym yn awr yn dychwelyd at y gwirionedd sylfaenol roeddem i gyd yn ei gydnabod yn y dechrau: yn y pen draw, mater i bleidiau gwleidyddol ei ddatrys yw hwn, mater i arweinyddiaeth wleidyddol y pleidiau hynny ac ar gyfer arweinyddiaeth y Prif Weinidog nesaf a'r Llywydd yn y Senedd hon. Mae mynyddoedd i'w dringo, ond rydym yn wlad fynyddig ac yn arfer eu dringo. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, ar ôl o leiaf bum newid sylweddol i lywodraethiant Cymru, ac eto heb unrhyw ddiwygio etholiadol yn gysylltiedig â hynny—