COVID-19 ar Ystâd y Llysoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 13 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae'n rhaid i lysoedd yng Nghymru weithredu yn ddiogel yn ystod y pandemig. I'r perwyl hwnnw, mae swyddogion yn cynnal deialog rheolaidd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Rwyf i wedi ysgrifennu at y prif weithredwr yn gofyn am sicrwydd pellach bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch y rhai sy'n mynd i adeiladau llysoedd yng Nghymru.