Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Hydref 2020.
Rwy'n anghytuno yn llwyr â'r pwyntiau yna. Rwy'n credu bod y ffordd y mae coronafeirws wedi cael ei reoli yng Nghymru wedi sicrhau cytundeb a chydsyniad pobl yng Nghymru. Yn sicr, nid ydyn nhw'n cytuno â'r math o syniadau ymylol y mae'r Aelod yn eu harddel yn y Siambr, yn ystod yr amser sy'n dal i fod ar ôl ganddo ar ôl gyda ni. Nid wyf ychwaith yn derbyn bod diben ein cais teithio i Brif Weinidog y DU yn ddim byd heblaw dull synhwyrol a syml o weithredu, sydd â'r nod o amddiffyn pobl a chadw Cymru yn ddiogel. Dyna yw amcan y Llywodraeth hon; efallai nad yw ef yn ei rannu.