Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolchaf i David Rowlands am y cwestiwn yna. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein cynllun ail-greu ar ôl COVID-19. Mae'n nodi ein hasesiad o effeithiau economaidd, iechyd a chymdeithasol dwys y feirws a sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu dyfodol diogel ac iach i bobl Cymru sydd yn decach, sydd yn fwy cyfartal, sydd yn fwy gwyrdd ac sy'n ffynnu.