Cydraddoldeb Rhywiol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 13 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:15, 13 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Angela Burns. Mae'r cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi ein huchelgais a'n camau ymarferol i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod a merched. Mae camau gweithredu i ddileu rhwystrau yn cynnwys darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â chyflogau isel, gwahaniaethu ac anghydraddoldebau hiliol.