Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch am eich ymateb. Byddai ambell un yn dweud ei fod e'n ddynesiad unigryw Gymreig oherwydd rŷn ni wedi creu strwythur sylweddol iawn o bwyllgorau o'i gwmpas e. Ond yr hyn roeddwn i eisiau ei ofyn oedd: a ydych chi'n credu bod yna ormod o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi deillio yn sgil y Ddeddf, a hefyd, wrth gwrs, pwy sy'n eu dal nhw i gyfrif—i bwy maen nhw yn atebol i sicrhau eu bod nhw'n delifro'r gwahaniaethau mae disgwyl iddyn nhw eu delifro?