Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Paul Davies, am y cwestiwn yna. Ac mae'n eithaf clir o ran yr ymateb i gyfraniad y sector gwirfoddol y bu hynny'n hanfodol i'n hymdrechion i ymladd y pandemig, cydgysylltu cefnogaeth leol, helpu i gefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig a thosturiol. Mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y byddai Paul Davies yn ymuno â mi i ddweud 'diolch o waelod calon' i'n holl wirfoddolwyr a sefydliadau'r sector gwirfoddol.