Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch am hynny. Mae arnaf i ofn nad wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr yn ysgrifennu atoch gydag ateb. Wrth gwrs, rydym i gyd yn estyn ein dymuniadau gorau i Elfyn Evans o ran ei ymdrechion gyrru rali, ac yn croesi ein bysedd oll.