Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 13 Hydref 2020.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gwastraff, yn enwedig staff awdurdodau lleol sydd wedi cadw'r olwynion casglu gwastraff yn troi drwy'r pandemig hwn. Sylwaf, Gweinidog, yn eich datganiad, yn amlwg mae pwyslais canmoladwy ar ailgylchu a'r economi gylchol, ond, wrth gwrs, y peth allweddol yma yw bod yn rhaid inni roi'r gorau i gynhyrchu'r gwastraff hwnnw yn y lle cyntaf, ac nid wyf yn clywed llawer yn eich datganiad am hynny. Ac fe hoffwn i chi ymhelaethu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud yn hynny o beth, oherwydd mae ystadegau gan WRAP Cymru yn dweud wrthym ni ein bod yn cynhyrchu 400,000 tunnell o wastraff plastig yng Nghymru bob blwyddyn. Gwastraff deunydd pacio yw 67 y cant o hynny a dim ond 33 y cant o wastraff cartref yr ydym ni yn ei ailgylchu. Felly, er eich bod yn falch o record Cymru o ran ailgylchu, awgrymwyd i mi mai'r hyn sydd gennym ni, mewn gwirionedd, yw record dda o ran casglu deunydd ailgylchadwy yn hytrach na chael yr agwedd ailgylchu'n iawn o reidrwydd. Rydym ni wedi gweld sut mae rhywfaint o'r deunydd hwnnw'n diweddu mewn mannau na ddylai, ac mae ystadegau WRAP Cymru hefyd yn ein hatgoffa bod gennym ni ffordd bell, bell i fynd.
Mae eich datganiad yn dweud wrthym, a dyfynnaf:
'Fe'i gwnes hi'n glir y dylai ein hymagwedd at yr economi gylchol ymwneud â gweithredu a dyna'r hyn yr ydym ni yn ei wneud'.
Wel, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers naw mlynedd a hanner, bron i 10 mlynedd. Ddeng mlynedd yn ôl, roeddem yn sôn am yr angen am gynllun dychwelyd ernes. Rydym yn dal i sôn am yr angen am gynllun dychwelyd ernes. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd y fan yma yn sôn am gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i siarad amdano. Ddeng mlynedd yn ôl, roeddem yn sôn am wahardd plastigau untro, a wyddoch chi beth? Rydym yn dal i sôn am wahardd plastigau untro. Os mai dyma'ch diffiniad o weithredu, Gweinidog, credaf fod gennym ni broblemau llawer dyfnach nag a ddychmygais erioed. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yn union y caiff y mentrau hyn eu cyflwyno? Oherwydd mae'n hen hen bryd, ac mae pobl fel fi wedi cael llond bol o aros am y gweithredu honedig yma.
Rwy'n edrych ymlaen at eich strategaeth economi gylchol newydd, i'w chyhoeddi ddiwedd eleni. Byddai gennyf ddiddordeb pe gallech chi efallai ymhelaethu ychydig ar sut y bydd hynny'n ystyried, wrth gwrs, yr holl sefyllfa o bandemig COVID yr ydym ni ynddi, a'r epidemig gwastraff newydd sy'n deillio o hynny o ran mygydau wyneb a menig ac eitemau un defnydd, sy'n bla nawr—a thybiaf y bydd rhyw fath o fentrau pwrpasol i geisio mynd i'r afael â'r materion penodol hynny—ond Brexit hefyd. Un o'r risgiau mawr a ddaw yn sgil Brexit fydd cynnydd enfawr mewn gwastraff bwyd, oherwydd yr hyn a welwn ni, o bosib, yw tarfu'n aruthrol ar gadwyni cyflenwi, gan arwain yn ddieithriad at gynhyrchu bwyd dros ben mewn rhai sectorau, ac un o'r rheini yw cig oen. Cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf y gallem ni fod yn wynebu hyd at 2 filiwn o garcasau ŵyn yn cael eu gwastraffu yn y DU yn unig, felly tybed pa gynlluniau wrth gefn a allai fod gennych chi fel Llywodraeth i baratoi eich hun ar gyfer hynny. Diolch.