Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 13 Hydref 2020.
Yn ogystal ag ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, fe fydd sawl digwyddiad a lansiad yn cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos hon. Er enghraifft, heddiw mae Race Equality First yn cynnal lansiad rhithwir o'i brosiect gwahaniaethu a throseddau casineb, a fydd yn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb a gwahaniaethu ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Ddydd Sadwrn, fe fydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn lansio ei siarter troseddau casineb, sy'n dod â hawliau dioddefwyr troseddau casineb i'r rheng flaen. Fe fydd yn annog sefydliadau i fabwysiadu'r siarter i ddangos eu hymrwymiad nhw i fod â rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â throseddau casineb, o ddarparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r siarter ac rwy'n annog sefydliadau i gofrestru a dangos eu cefnogaeth nhw hefyd.
Ym mis Mawrth, fe arweiniais i ddadl ar ein cynnydd ni wrth fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ac fe roddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus Llywodraeth Cymru a'r gwaith sydd ar y gweill ganddi. Ers hynny, mae ein pwyslais wedi bod, yn briodol, ar fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Fe fu'n rhaid inni addasu'r gwaith a oedd wedi ei gynllunio gennym, er enghraifft, mae'r gwaith o gyflawni prosiectau troseddau casineb wedi symud ar-lein ac rydym yn gobeithio ailgychwyn gweithgarwch troseddau casineb mewn ysgolion erbyn diwedd y flwyddyn. Er hynny, rydym wedi gweld tystiolaeth glir hefyd o gymunedau cydlynol ledled Cymru, wrth i bobl ddod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae'r ymrwymiad hollol newydd i wirfoddoli, i gefnogi cymdogion a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i'w ddathlu a'i drysori. Rwy'n gobeithio y gallwn ni barhau i adeiladu ar y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen.
Rydym wedi diwygio amserlen ein hymgyrch gyfathrebu Cymru gyfan ar droseddau casineb, a bydd lansiad yn digwydd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ymgyrch fawr fydd hon gyda'r amcan o dynnu sylw at yr effaith a gaiff troseddau casineb o ran ynysu dioddefwyr ac annog cefnogaeth y cyhoedd.
Mae ein timau cydlyniant cymunedol wedi bod yn allweddol i'n gwaith o gefnogi cymunedau a lliniaru tensiynau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r hyblygrwydd a ddangoswyd gan y timau yn eu hymateb ar y cyd i her annisgwyl COVID-19 unwaith eto wedi tynnu sylw at werth anferthol y rhaglen.
Ond mae yna rai sy'n ceisio rhannu ein cymunedau ni â naratifau anfad ac ymrannol. Yn ddiweddar, mae unigolion manteisgar wedi ceisio elwa ar y ffordd annerbyniol y mae'r Swyddfa Gartref wedi cyfleu ei phenderfyniad i ddefnyddio gwersyll hyfforddi byddin Penalun i letya ceiswyr lloches heb ymgynghori nac ymgysylltu â'r gymuned leol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Ein nod ni yw bod yn genedl noddfa yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu cefnogi'r rhai sy'n cyrraedd yma i ymdoddi'n effeithiol er budd cymunedau cyfagos, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i gyflawni hyn.
Drwy gyfrwng ein cyfarfodydd rheolaidd ni gyda'r heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr, rydym wedi gweld adroddiadau am droseddau casineb, ar gyfartaledd, yn aros yn is drwy gyfnod y pandemig. Er na allwn ni fod yn sicr pam, mae'n bosibl ei fod o ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol a phrinder cyfathrebu, neu fel arall oherwydd bod pobl yn gyndyn i roi gwybod am droseddau casineb oherwydd nad ydynt eisiau trafferthu'r heddlu yn ystod y cyfnod prysur hwn.
Fe wyddom drwy ein sgyrsiau gyda phob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru fod troseddau casineb yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac rwy'n awyddus i achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu'r neges hon. Rydym yn annog dioddefwyr i ddal ati i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau yn ystod pandemig COVID-19, boed hynny i'r heddlu neu drwy'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru.
Fe hoffwn i ddiolch i'r heddlu, awdurdodau lleol, y trydydd sector, a'n holl bartneriaid am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harbenigedd.
Yn y gorffennol, rwyf wedi tynnu sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o ddigonolrwydd a chydraddoldeb yr amddiffyniad y mae deddfwriaeth troseddau casineb yn ei gynnig. Fe gyhoeddodd ei bapur ymgynghori ar 23 Medi. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dymuno clywed gan gynifer o randdeiliaid â phosibl, gan gynnwys dioddefwyr troseddau casineb a'r darparwyr gwasanaethau sy'n eu cefnogi nhw. Rwy'n annog pobl yn gryf iawn i gymryd rhan, gan ei bod yn bwysig i'r ymgynghoriad allu clywed am safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru.
Yng ngweddill y tymor Seneddol, rydym yn bwriadu gosod y sylfeini ar gyfer gweithgarwch yn y maes hwn i'r dyfodol. Yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu egwyddorion cydlyniant cymunedol i ddod o hyd i nodau cyffredin a fydd yn meithrin ac yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yng Nghymru. Ac yn rhan o'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n cynhyrchu diweddariad ar gamau gweithredu yn y fframwaith troseddau casineb. Rydym yn gweithio ar bartneriaeth newydd gyffrous hefyd gyda dangosfwrdd HateLab Prifysgol Caerdydd, i gynyddu ein gallu ni i fonitro ac ymateb i gasineb ar-lein.
Heddiw, fe gyhoeddwyd ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-2020 ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedden nhw'n dangos cynnydd cyffredinol o 2 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 8 y cant ledled Cymru a Lloegr i gyd. Roedd yr ystadegau yn cynnwys cynnydd o 10 y cant mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb anabledd, a chynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol. Fe fu yna ostyngiad o 2 y cant mewn troseddau casineb hiliol a gostyngiad o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol. Nid ydym wedi gweld yr un lefel o gynnydd ar draws pob elfen o droseddau casineb ag y gwnaethom yn y flwyddyn flaenorol. Eto i gyd, mae'r ystadegau yn dangos bod y codiadau a welsom yn 2018-19 wedi parhau.
Yn ogystal â hynny, fe wyddom fod tua hanner y digwyddiadau casineb hunan-gofnodedig yn parhau i fod heb eu cofnodi fel troseddau casineb ledled y DU. Fe allai hyn amrywio—y rhesymau am hyn—oherwydd diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol neu oherwydd nad yw pobl yn gwybod sut i adrodd am droseddau casineb. Mae ein gwaith ni o godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ac annog dioddefwyr i adrodd yr un mor hanfodol ag erioed, fel y mae ein hymdrech ni i ddeall profiadau dioddefwyr yn well a'r rhesymau dros beidio â dymuno rhoi gwybod am y digwyddiadau.
Ledled Cymru, mae sefydliadau'n defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb fel cyfle i atgoffa pobl nad oes yn rhaid iddyn nhw ddioddef casineb na rhagfarn. Nid yw'n dderbyniol i bobl fyw mewn ofn oherwydd pwy ydyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i gefnogi'r neges glir iawn hon heddiw nad oes lle i gasineb yng Nghymru. Diolch yn fawr.