Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 13 Hydref 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac i ddiolch fy hun i Phil Jones a'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith hefyd. Dylwn i ddweud bod mater parcio ar y palmant yn fater y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych arno o'r blaen, ac rydym ni wedi edrych arno'n arbennig fel rhan o'n hymchwiliad i deithio llesol.
Mae'n amlwg bod parcio ar y palmant yn arwain at ganlyniadau negyddol i lawer o gerddwyr, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl a phlant, felly croesawaf argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwyf hefyd yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn credu ein bod yn anghytuno llawer y prynhawn yma ar y mater hwn. Dylwn ddweud fy mod yn siŵr bod Aelodau eraill wedi cael pobl yn codi materion etholaethol gyda nhw, a chytunaf â'r Dirprwy Weinidog, pan edrychais ar hyn fy hun fel Aelod etholaeth, nad oes canllawiau clir yn y gyfraith ynghylch y maes penodol hwn.
Rwy'n tybio y cytunwch â mi, Gweinidog, mai'r her sydd gennym ni yw bod parcio ar y palmant, mewn sawl ardal, yn cael ei ystyried yn hanfodol, nid yn unig oherwydd nad oes gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny unman arall i barcio, ond oherwydd na fyddai cerbydau argyfwng a cherbydau ailgylchu ac ati yn gallu mynd ar hyd rhai strydoedd pe na bai pobl yn parcio ar y palmant. Felly, byddai unrhyw ddeddfwriaeth, boed yn sylfaenol neu'n eilaidd, wrth gwrs yn creu cryn bryder ymhlith rhai cymunedau gan mai dyma'r unig ffordd i breswylwyr barcio ger eu cartref. Felly, o ystyried hynny, sut y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i hyn yn ystod unrhyw ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y mater mewn ymdrech i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd a chael adborth gan y cyhoedd? A faint o arian fydd eich adran yn ei neilltuo tuag at yr ymgyrch addysg gyhoeddus?
Wrth weithredu'r polisi hwn, mae'n ymddangos y byddai'n rhaid i bob awdurdod lleol, os wyf wedi deall yn iawn, wneud archwiliad o'r cannoedd o ffyrdd yn eu hardaloedd. A byddai'n rhaid i'r awdurdod wedyn wneud gorchmynion rheoleiddio trafnidiaeth ar gyfer unrhyw eithriad sydd ei angen. Felly, credaf y byddai'n anghyfrifol peidio ag ystyried y pwysau ar awdurdodau lleol o orfod eithrio cannoedd o strydoedd mewn llawer o achosion. Felly, tybed pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog llywodraeth leol a gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gael eu barn ar yr hyn sy'n debygol iawn o fod yn dasg anodd yn fy marn i.
Mae'n amlwg bod ardaloedd trefol fel Caerdydd ac Abertawe yn wahanol iawn, o ran dosbarthiad poblogaeth, i ardaloedd awdurdodau gwledig fel Powys neu Geredigion, a gallai fod canlyniadau anfwriadol sylweddol yn sgil gwaharddiad cyffredinol, os caiff ei gyflwyno, felly credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus, wrth liniaru problem, yr ydym ni i gyd yn cytuno sy'n bodoli, nad ydym yn creu problem arall mewn ardal arall. Felly, tybed beth fyddai'r risg o unrhyw waharddiad yn ei achosi o ran canlyniadau anfwriadol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi a'ch swyddogion wedi ystyried hynny, felly byddai'n ddefnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac os gallech chi hefyd—. Gallech yn hawdd ragweld amgylchiadau lle y gallai fod angen i rai awdurdodau lleol eithrio cannoedd o ffyrdd o'r gwaharddiad oherwydd trefn y ffyrdd. Gallai pob ffordd gostio o leiaf £1,000 i'w heithrio, a gallai'r gost o baratoi gwaharddiad ar barcio ar y palmant ddisgyn yn anghymesur ar awdurdodau sydd â phoblogaethau dwysach mewn cymunedau a allai fod yn dlotach, oherwydd natur y strydoedd a'r stociau uwch o dai teras. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i hyn.
Yn olaf, mae'n bwysig mai'r corff sydd fwyaf abl i orfodi sy'n gwneud hynny, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai awdurdod lleol yw'r corff mwyaf priodol. Fodd bynnag, o gofio bod cyllidebau awdurdodau lleol a chyllidebau plismona dan bwysau, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai ystyried sut y byddai'r rheoliadau'n gweddu i'r gweithgarwch gorfodi priodol mewn modd priodol hefyd.