6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 13 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:55, 13 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran gwella gwasanaethau mamolaeth a threfniadau llywodraethu o ansawdd ehangach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roeddwn yn credu ei bod yn arbennig o bwysig fy mod yn sicrhau pawb, er bod yn rhaid i ni o reidrwydd roi cymaint o sylw i reoli'r pandemig COVID sy'n dal yma, ein bod hefyd wedi parhau i ganolbwyntio ar feysydd pwysig fel y maes hwn. Roeddwn yn arbennig o awyddus i roi sicrwydd i fenywod a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt fod hyn yn wir, a bod y camau a roddais ar waith y llynedd i sicrhau'r gwelliannau gofynnol a pharhaus mewn gwasanaethau mamolaeth wedi parhau dros y cyfnod anodd hwn.

Ar 28 Medi, cyhoeddais y pedwerydd adroddiad diweddaru gan banel goruchwylio annibynnol y gwasanaethau mamolaeth. Mae'r panel wedi parhau i chwarae rhan hanfodol wrth roi'r sicrwydd allanol angenrheidiol bod gwelliannau cynaliadwy yn cael eu gwneud mewn modd amserol a thryloyw. Fe'm calonogwyd yn fawr felly o weld y panel yn cadarnhau bod cynnydd pellach wedi'i wneud dros y chwe mis diwethaf, ac yn arbennig eu hasesiad bod y bwrdd iechyd wedi gwneud yn hynod o dda i gynnal momentwm yn wyneb her COVID-19. Nid wyf yn tanamcangyfrif yr hyn a gyflawnwyd, a hoffwn ddiolch i'r holl staff a oedd yn rhan o'r gwaith hwnnw.

Rwyf yn derbyn ac yn cydnabod bod proses sicrwydd y panel wedi cael rhai cyfyngiadau, fel y maen nhw eu hunain wedi dweud, tra bod y cyfyngiadau COVID yn parhau—yn enwedig eu bod yn methu â chael cyswllt wyneb yn wyneb â menywod a theuluoedd yn ogystal â staff i glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu profiadau. Bydd y panel yn ailedrych ar feysydd allweddol unwaith y gellir llacio'r cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod y newidiadau wedi'u gwreiddio ac yn gynaliadwy.

Yn amlwg, bu'n rhaid gohirio rhai agweddau eraill ar wella hefyd yn ystod y cyfnod hwn, megis rhaglenni datblygu diwylliannol ac arweinyddiaeth. Bydd angen ailddechrau'r rhain cyn gynted â phosibl, ond yn amlwg, o ystyried y pwysau presennol, rhaid i ni fod yn realistig ynghylch pryd y gallai hynny ddigwydd. Mae'n anffodus hefyd y bu rhaid i ganolfan eni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gau dros dro oherwydd cyfyngiadau staffio yn ystod uchafbwynt cychwynnol COVID. Yn anffodus, bu'n rhaid gohirio unwaith eto gynlluniau i ailagor y ganolfan yr wythnos diwethaf o ystyried yr achosion presennol. Fodd bynnag, bydd y bwrdd iechyd yn adolygu hyn yn rheolaidd ac maen nhw'n benderfynol o ailagor y ganolfan cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Heddiw, roeddwn hefyd eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yn y rhaglen adolygu clinigol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys adolygu'r gofal a ddarperir i fenywod a babanod mewn tri chategori diffiniedig rhwng mis Ionawr 2016 a mis Medi 2018. Mae hyn yn cynnwys gofalu am fenywod, yn enwedig y rhai yr oedd angen eu derbyn i ofal dwys, babanod a oedd, yn anffodus, yn farwanedig neu a fu farw yn y cyfnod newyddenedigol, yn ogystal ag agweddau eraill ar ofal newyddenedigol. Erbyn hyn mae tua 160 o achosion yn cael eu hadolygu, gyda'r nifer wedi cynyddu'n bennaf oherwydd hunanatgyfeiriadau gan fenywod yn gofyn am adolygiad o'u gofal. Mae fy ymrwymiad i fenywod i adolygu eu gofal os oes ganddynt bryder, yn parhau, ac mae proses sefydledig ar waith ar gyfer ystyried ceisiadau hunanatgyfeirio o'r fath.

Felly, mae'r rhaglen adolygu clinigol yn helaeth ac mae'r gwaith wedi parhau heb unrhyw oedi yn ystod yr achosion o COVID. Mae hynny ynddo'i hun yn dyst i ymrwymiad pawb sy'n rhan o hyn. Mae'r panel yn agos at gwblhau adolygiadau'r categori mamolaeth, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y panel yn ysgrifennu at y menywod yr effeithir arnynt i rannu eu canfyddiadau â hwy. Yn dilyn hyn, byddan nhw wedyn yn cynhyrchu dadansoddiad thematig o'u canfyddiadau a'u hargymhellion, gyda'r nod o wneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ar ôl imi ei dderbyn, byddaf wrth gwrs yn ei gyhoeddi, fel gyda holl adroddiadau'r panel.

Mae'r panel wedi pwysleisio'r angen i'r bwrdd iechyd sicrhau bod y dulliau angenrheidiol ar waith i gefnogi menywod, teuluoedd a staff wrth i ganfyddiadau'r adolygiadau clinigol ddechrau dod i'r amlwg. Hoffwn ddiolch hefyd i'r menywod a'r teuluoedd hynny sy'n gysylltiedig am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith barhau i fynd rhagddo. Rwy'n sylweddoli ei bod yn anodd aros am ganlyniad yr adolygiad a'r pryder y gallai hyn ei greu. Mae'n bwysig bod y broses hon yn arbenigol, yn drylwyr ac yn canolbwyntio ar brofiadau'r bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd peth amser i bob menyw a theulu gael eu hadborth unigol.

Mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i wneud cynnydd gyda'i drefniadau ansawdd a llywodraethu ehangach fel rhan o'r gofynion ymyrraeth a dargedir. Maen nhw wedi rhoi model gweithredu newydd ar waith sy'n seiliedig ar ardal dan arweiniad clinigol. Rwyf yn falch o weld y byddan nhw'n lansio eu fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad newydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae hynny'n dilyn ymgysylltu helaeth â staff, cleifion a rhanddeiliaid.

Mae'r rhain yn gamau pwysig i ddangos eu bod yn sefydliad sydd wir yn cael ei lywio gan ansawdd, yn agored ac yn un sy'n dysgu. Mae'r ffordd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymateb i'r achosion presennol a difrifol o'r COVID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn enghraifft arall o hyn. Nid wyf yn credu y bydd yr un ohonom yn tanamcangyfrif yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar ein staff, na'u hymrwymiad i wneud eu gorau glas dros y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Deallaf hefyd y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru yn gwneud gwaith dilynol yn ystod y misoedd nesaf i asesu cynnydd o'i gymaru â'r argymhellion a wnaethant yn yr adolygiad llywodraethu ansawdd y llynedd. Bydd hwn yn ddarn pwysig o waith i roi sicrwydd allanol i ni ynglŷn â graddau'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Mae'n amlwg bod gwaith sylweddol i'w wneud o hyd. Serch hynny, rwyf yn obeithiol y bydd cynnydd yn parhau i gael ei wneud, yn enwedig o ystyried yr ymrwymiad y mae'r bwrdd iechyd a'i staff wedi'i ddangos, yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol yr ydym i gyd yn byw drwyddo. Diolch, Llywydd.