Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Hydref 2020.
Mae SWTRA a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gohebu gyda chyngor cymuned Llanegwad, ond y broblem yw bod yna wahaniaeth barn rhyngddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Yn benodol, mae SWTRA wedi argymell system i gasglu malurion ymhellach lan yr afon ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu hynny. Felly, y cwestiwn mae cyngor Llanegwad a finnau yn gofyn, yn naturiol, yw pa un o'r asiantaethau llywodraethol yma mae'r Llywodraeth yn cytuno â hi. Ac a allwn ni gael cyfarfod gyda'r ddwy asiantaeth, a dweud y gwir, i ddatrys yr issue yma ar gyfer pobl leol yn ardal Pontargothi?