Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Hydref 2020.
Nac ydw. Mae’n rhaid imi ddweud, nid ar ffermio ym Mhrydain y mae fy ffocws, ond ar ffermio yng Nghymru. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i gefnogi'r sector amaethyddol, yn enwedig ers 2016, yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym am sicrhau bod ein sector amaethyddol a'n ffermwyr a'u busnesau mor gystadleuol ac mor gynaliadwy â phosibl. Rydym wedi rhoi cryn dipyn o gyllid—yn eironig, gan yr UE—i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y sector cig coch ac ar y sector llaeth, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ffermwyr sicrhau bod eu busnesau mor gadarn â phosibl.
Rwy’n falch iawn o’r safonau iechyd a lles anifeiliaid sydd gennym yma yng Nghymru, a’n safonau bwyd, ac rwyf am sicrhau bod hynny’n parhau. Rwy'n siŵr y gallwn ddod o hyd i enghreifftiau o arferion gwael ledled y byd, ond mae fy ffocws i ar Gymru a ffermwyr Cymru.