Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Hydref 2020.
Ein huchelgais cyffredinol yw creu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd. Wrth gynllunio i adfer wedi’r pandemig, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen ag adferiad gwyrdd a fydd yn gwella canlyniadau i Gymru, yn cynhyrchu economi fwy cynaliadwy a chadarn yn y dyfodol, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a cholledion o ran bioamrywiaeth.