Economi Wyrddach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod yn methu’r pwynt ynglŷn â’r cyfleuster a agorwyd yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn Sir y Fflint. Y syniad oedd cefnogi deunydd pecynnu mwy cynaliadwy. Mae pobl yn llawer mwy awyddus i edrych ar ba gynhwysion, er enghraifft, sydd yn eu bwyd a'r hyn sydd angen inni ei sicrhau yw canolfan ddeunydd pecynnu dda iawn, ac mae arnaf ofn nad wyf yn cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod.