Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion cadarnhaol hwnnw, ond fe fyddwch yn ymwybodol fod pobl yn poeni y gallai dyddodion diesel ymhellach i fyny'r aber weithio eu ffordd i lawr tuag at y gwelyau cocos. A allwch roi sicrwydd inni heddiw y byddwch yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd o ran y risg barhaus o lygredd yno i sicrhau bod y diwydiant lleol bach ond pwysig hwn y gwn eich bod yn gwybod ei fod yn unigryw—y cocos sy’n cael eu casglu â llaw, yn hytrach na’u llusgrwydo yn y ffordd sy'n niweidiol i'r amgylchedd—er mwyn sicrhau bod y diwydiant pwysig hwn yn parhau i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol?