Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch hefyd am gytuno i gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd yn fy etholaeth gyda'r Dirprwy Weinidog. Mae cyngor Pen-y-ffordd yn teimlo'n wirioneddol angerddol am eu hardal ac maent yn wybodus iawn ynglŷn â materion cynllunio. Weinidog, gwn eich bod chi'n awyddus i gymunedau gael mwy o rôl yn y broses o lunio eu hamgylchedd eu hunain; sut y mae sicrhau y gwrandewir ar arbenigedd a phrofiadau Cyngor Cymuned Pen-y-ffordd pan fydd newidiadau i reolau cynllunio dan ystyriaeth?