Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 14 Hydref 2020.
Lywydd, gadewch imi sicrhau'r Aelod nad yw pobl Cymru angen y math o esboniad y mae'n ei gynnig. Mae pobl Cymru'n galw'n groch am inni gymryd y camau a fyddai'n eu diogelu rhag pobl sy'n teithio i Gymru o ardaloedd eraill lle mae'r gyfradd achosion yn uchel, ac mae hynny'n arbennig o wir yn etholaeth yr Aelod ei hun, lle mae pobl yn bryderus ac yn ofni effeithiau pobl o ardaloedd eraill lle mae'r gyfradd drosglwyddo'n uchel iawn ar eu ardal hwy—ac er na chânt hwy deithio yno o Gymru, mae'n hurt eu bod yn dal i allu teithio o Loegr i'r ardaloedd hynny. Felly, nid yw'r Aelod yn adlewyrchu barn a dyheadau pobl Cymru.
Roeddwn yn falch o gyhoeddi'r papur hwnnw ddoe. Yn sicr, nid yw'n pwyso arnaf i wneud dim, ac rwy'n fwy tebygol o ddibynnu ar gyngor y rhai sy'n arbenigwyr mewn genomeg, yn hytrach nag amaturiaid sy'n darllen eu cyngor. Os yw am gael dau ddarn arall o dystiolaeth—fel y dywedais, nid bod pobl Cymru angen ei dystiolaeth, oherwydd maent wedi'u hargyhoeddi'n barod—y dystiolaeth, Lywydd, yw bod hyd at 80 y cant o achosion newydd o'r haint yn cael eu hachosi gan archledaenwyr. Felly, nid yw'n cymryd llawer o bobl sy'n archledaenwyr i ddod i mewn o ardal allanol i gael effaith fawr iawn. Yn ail, gan ddefnyddio'r technegau newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor, rydym bellach yn monitro'r dŵr gwastraff o fannau ar hyd arfordir gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac rydym yn gweld llwythi sylweddol o gopïau genomig o COVID-19 sy'n dangos cynnydd yn y nifer debygol o'r achosion o'r feirws mewn dalgylchoedd. Mae'n dangos bod ymwelwyr o'r tu hwnt i Gymru yn dod â'r feirws gyda hwy. Dyna beth y mae pobl yn awyddus i'w osgoi, dyna pam y gwnaethom weithredu yma yng Nghymru. Oni fyddai'n dda pe bai ei blaid yn fodlon gwneud yr un peth?