5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:15, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i Jenny Randerson, fel y mae llawer o rai eraill wedi dweud eisoes, am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn—[Torri ar draws.] Rathbone—rwyf wedi disgyn i ryw fath o ystumdro amser. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf wedi drysu fy Jennys. Ymddiheuriadau. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Jenny am gyflwyno hyn ac i bawb sydd wedi'i gefnogi. Mae hwn yn fater mor bwysig ac rydym wedi cael cynifer o gyfraniadau gwirioneddol bwysig heddiw.

Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau sydd wedi'u codi, ond gobeithio y bydd pobl yn maddau i mi os dechreuaf gyda Suzy Davies, oherwydd credaf fod y lefel honno o onestrwydd a didwylledd ynglŷn â sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar ein bywydau mor bwysig. A phan fydd menywod fel ni, sydd â rolau mewn bywyd cyhoeddus, sy'n cael eu gweld, efallai, yn llwyddiannus ac yn hyderus—os siaradwn yn agored am effaith y mathau hyn o faterion arnom, bydd yn codi ymwybyddiaeth a bydd yn helpu i rymuso menywod eraill i godi'r materion yn eu bywydau eu hunain. Felly, yn bersonol rwy'n ddiolchgar iawn i Suzy am fod mor agored a gonest gyda ni heddiw. Credaf eich bod yn iawn i ddweud, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod hon yn enghraifft o'r Senedd ar ei gorau.

Codwyd cynifer o faterion: effaith—a soniodd Angela am hyn—yr artaith gorfforol, a soniodd llawer o bobl eraill am hynny; yr effaith ar ein bywydau. Pwynt Joyce Watson am yr effaith ar fywydau gwaith menywod a'r effaith economaidd hirdymor y gall hynny ei chael dros oes gyfan, ac mae eraill wedi nodi hynny.

Dechreuodd Jenny, wrth gwrs, drwy siarad am bwysigrwydd ymwybyddiaeth, ac mae ein cynnig yn glir iawn ynglŷn â hynny. A chyn imi sôn am eraill, hoffwn ddod yn ôl, os caf, at rai o sylwadau'r Gweinidog. Nawr, mae'n dda iawn ei fod wedi cydnabod y problemau gyda nifer yr atgyfeiriadau a'r amser y mae'n ei gymryd, ac mae'n pwysleisio cyfrifoldebau'r byrddau iechyd lleol, ac mae hynny'n wir wrth gwrs. Ond rwy'n falch o'i glywed yn ymrwymo heddiw i ysgrifennu at y byrddau iechyd unwaith eto, oherwydd beth bynnag sydd eisoes wedi'i ddweud, mae'n amlwg nad yw'r neges yn cael ei chlywed. Mae'n dweud wrthym fod canllawiau NICE yn rhoi llwybr clir. Wel, rydym wedi clywed gan Dr Dai Lloyd nad yw hwnnw'n llwybr roedd ef, fel meddyg teulu, yn ymwybodol ohono ac yn gallu gweithio gydag ef a chyflawni. Felly, mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud yno o ran ymwybyddiaeth o'r llwybr hwnnw. A byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog efallai y gallai ofyn i'r grŵp iechyd menywod archwilio'r llwybr hwnnw a gweld a yw'n addas i'r diben yma yng Nghymru, neu a oes pethau eraill y mae angen eu gwneud.

Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth yn gefnogol ar y cyfan ac yn deall mai'r hyn sy'n arferol iddynt yw ymatal, ond cefais fy siomi braidd gan yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ymchwil, oherwydd mae'n amlwg fod angen mwy o ymchwil a chyfeiriodd at hynny'n ddiweddarach yn y cyfraniad hwn. Ac mae'n dweud nad oes gwellhad yn awr. Wel, wrth gwrs nad oes gwellhad yn awr. Wyddoch chi, ddegawdau'n ôl, nid oedd gwellhad i bob math o afiechydon y gallwn eu gwella bellach. Ac mae hyn yn dod yn ôl at y pwynt y mae llawer o siaradwyr wedi'i wneud, a chyfeiriodd y Gweinidog ato ei hun yn wir: pe bai hwn yn afiechyd sy'n effeithio ar ddynion ac yn gwanychu dynion yn y ffordd y mae'n effeithio ar fenywod ac yn eu gwanychu, byddem wedi cael yr ymchwil a byddem wedi cael gwellhad.

Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y canllawiau ar fyw gyda phoen. Wel, rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog heddiw nad yw menywod sy'n dioddef o'r cyflwr hwn am i'w poen gael ei reoli, maent am iddo ddiflannu. Ac mae arnom wir angen mwy o ymchwil i'n galluogi—. Oherwydd bydd achos ffisiolegol dros hyn a lle ceir achos ffisiolegol, bydd gallu i ymyrryd. A dywedodd y Gweinidog ei hun pe bai hwn yn gyflwr roedd dynion yn dioddef ohono, byddai rhywbeth wedi'i wneud. Wel, mae angen yr ymchwil i gael hynny wedi'i wneud, ac nid dim ond ymchwil i reoli poen sydd ei hangen arnom, er bod hynny'n bwysig ynddo'i hun.

Cynifer o gyfraniadau pwerus iawn—Vikki Howells yn sôn am faint y broblem; Angela Burns, fel y dywedais, yn sôn am y ffordd y mae'n effeithio ar fywydau menywod; Joyce unwaith eto'n tynnu sylw at ryw fath o brofiadau teuluol, y caledi ariannol. Mae cynifer o negeseuon pwysig yn dod allan o'r ddadl heddiw. Rwy'n falch o gymryd o gyfraniad y Gweinidog ei fod yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho'n glir iawn yw y bydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod yn mynd ar drywydd hyn. Byddwn yn cadw llygad ar yr ymrwymiadau y mae wedi'u gwneud, a lle teimlwn fod angen iddo fynd ychydig ymhellach, byddwn yn ei wthio. Oherwydd fel rydym wedi clywed yng nghyfraniad Suzy ac fel y gwn o brofiadau cyfaill agos iawn i mi, nid yw hwn yn gyflwr y dylid gofyn i fenywod fyw gydag ef. Mae arnom angen gwellhad.