Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Synnais wrth glywed Nick Ramsay a Mark Reckless yn cyfeirio at fy eiriolaeth i broses ddeddfwriaethol. Mae fy nodiadau fy hun yma'n dweud fy mod wedi dod at hyn heb fod ag unrhyw ragdybiaethau nac ymagwedd egwyddorol ar y cychwyn, dim ond gwrando ar y dystiolaeth. Efallai i mi wrando, sut y gallaf ddweud, ychydig yn fwy gweithredol nag y tybiwn.
Mewn sawl ffordd, mwynheais yr ymchwiliad, mwynheais yr adroddiad, mwynheais y ddadl a'r sgyrsiau a gawsom fel pwyllgor rhyngom ein gilydd a'r rhai a roddodd dystiolaeth. Ac mewn sawl ffordd, teimlwn fod yr adroddiad hwn a'r ddadl hon yn mynd at wraidd ein rôl fel deddfwrfa ac fel Senedd. Mae'n iawn ac yn briodol, wrth gwrs, fod gan y Llywodraeth hawl i'w busnes a'i chyllideb. Mae gan y Llywodraeth hyder y Senedd ac mae ganddi hawl i'w busnes, ac mae hynny'n cynnwys ei chyllideb. Ond mae gennym hawl hefyd fel seneddwyr i graffu ar y gyllideb honno ac i graffu ar benderfyniadau gwario a threthiant Gweinidogion a'u herio. Rwy'n cydnabod grym y pwynt a wnaeth Mark Reckless am ystod y pwerau hynny, ond os yw Llywodraeth yn dymuno fy nhrethu, boed yn geiniog neu'n bunt, byddwn yn dweud yn glir iawn y byddwn yn rhagweld ac yn disgwyl y byddai fy nghynrychiolwyr etholedig yn herio'r Gweinidog hwnnw a herio'r Llywodraeth honno ynglŷn â beth y mae angen y cyllid hwnnw ar ei gyfer a sut y caiff ei wario. A byddwn yn sicr yn rhagweld y bydd unrhyw Senedd yn cyflawni'r rôl honno.
Ond mewn gwirionedd, mae'r ddadl hon yn mynd at wraidd y ddau hanfod: hawl Llywodraeth i'w busnes a hawl y ddeddfwrfa i graffu arni. Cefais fy argyhoeddi, yn ystod y sgyrsiau ac yn ystod yr ymchwiliad, nad ydym wedi cael y cydbwysedd hwnnw yn y lle iawn heddiw. Mewn sawl ffordd, mae'r ffordd rydym yn trafod ac yn dadlau am ein cyllideb yn rhywbeth a adawyd ar ôl o hen ddyddiau datganoli gweinyddol a hen ddyddiau corff corfforaethol. Nid yw'n adlewyrchu realiti democratiaeth seneddol heddiw, ac mae'n debyg mai dyma'r elfen olaf yn y jig-so penodol hwnnw sydd angen inni ei rhoi ar waith.
Darllenais ymateb y Gweinidog a chydnabod yr hyn a oedd yn cael ei ddweud—'nid oes gennym wrthwynebiad egwyddorol ond efallai ddim eto'—ac rwy'n derbyn hynny, rwy'n deall hynny, ond os nad yn awr, pryd? Rwy'n credu na allwn gael y dadleuon hyn yn barhaus heb ddod i gasgliad a sicrhau ein bod yn gallu symud ymlaen. Fel Mark Reckless, rwy'n pryderu am brosesau San Steffan, a chytunaf ag ef nad ydynt yn ddigonol, na ddylem geisio efelychu'r rheini yma, ond credaf fod gennym rywbeth i'w ddysgu gan ein cyfeillion yn yr Alban, a chredaf fod enghreifftiau rhyngwladol eraill i'w cael lle gallwn ddysgu'r gwersi hynny hefyd. Credaf fod proses ddeddfwriaethol yn darparu'r gwaith craffu ar gyfer y Senedd, ond hefyd yr estyniad angenrheidiol i Weinidogion. A chredaf fod angen inni brofi Gweinidogion mewn ffordd sy'n fwy trylwyr nag a wnawn ar hyn o bryd, a chredaf fod y broses ddeddfwriaethol yn darparu ar gyfer y prawf digonol hwnnw a'r craffu hwnnw nad yw'n bodoli ar hyn o bryd.
Ond rwy'n cloi, Lywydd dros dro, gyda hyn: mae angen diwygio ein systemau, ond rwy'n cydnabod ein bod ni, o fewn ein systemau—[Anghlywadwy.]—o fewn system yn y DU sydd ei hun wedi torri. Mae'r ffordd y gwneir penderfyniadau gan y Trysorlys, y ffordd y gwneir penderfyniadau gan system San Steffan, yn golygu ein bod yn barhaus yn rhedeg ac yn mynd ar drywydd penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill, ac mae angen i hynny ddod i ben ac mae angen diwygio hynny. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw, edrych yn galed ar ein prosesau yma yn ein democratiaeth ein hunain, ond ei bod hefyd yn gallu cael sgwrs fwy dwys am strwythurau ariannol ehangach y Deyrnas Unedig, oherwydd mae angen eu diwygio yn yr un modd. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ffurfio rhyw fath o gytundeb rhwng y lle hwn a'r Llywodraeth—os nad heddiw, yna dros y misoedd nesaf—ac y bydd yr Aelodau hynny a etholir fis Mai nesaf yn gallu bwrw ymlaen â hynny a chwblhau'r diwygio mawr ei angen.