Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Am funud, roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog yn camu'n ôl braidd o'r hyn roeddwn wedi'i ddeall oedd y safbwynt, ond rwy'n credu—. Rwy'n tybio bod bod yn agored i barhau â'r drafodaeth hon yn dweud mewn gwirionedd eich bod yn hapus i wneud hynny ac y byddwch yn ymgysylltu, ac rwy'n siŵr y bydd eich olynydd yn y Senedd nesaf, gobeithio, yn hapus i wneud hynny.
Mewn ymateb i'r cyfraniadau—ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan—efallai nad yw hyn yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau, Nick, ond mae goblygiadau cyllidebau yn sicr yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau, yn enwedig pan fyddwn yn sôn am bwerau i amrywio trethi a gallu codi neu ostwng trethi, lefelau ariannu uwch, lefelau ariannu is. Yn sicr, dyna'r pethau y mae pobl yn sôn amdanynt ac mae angen i lefel y craffu y mae'r lle hwn yn ei wneud ar y broses honno fod mor gadarn ag sy'n bosibl yn fy marn i. Ac rydych chi'n iawn: mae'n ymwneud â datganoli'n tyfu i fyny oherwydd wrth i gyfrifoldebau a phwerau cyllidol yma dyfu ac esblygu, dylai'r ffordd rydym yn craffu ar y penderfyniadau hynny, yn dylanwadu arnynt ac yn eu cyrraedd wneud hynny hefyd.
Fe sonioch chi ac Aelodau eraill am daro'r cydbwysedd, y cydbwysedd cywir, ac mae cydbwysedd i'w daro—credaf fod y pwyllgor yn cydnabod hyn—rhwng perchnogaeth y Llywodraeth ar ei chyllideb a'i gallu i gyflwyno ei chyllideb ei hun, ond hefyd gallu'r ddeddfwrfa hon i ddylanwadu arni a'i newid lle teimlwn fod hynny'n briodol ac yn angenrheidiol. Nawr, mae p'un a yw'n Fil cyllideb neu'n Fil cyllid neu'n fodel hybrid neu ryw fodel arall yn rhywbeth y gallwn ei drafod, ond yn sicr mae honno'n drafodaeth rwy'n arbennig o awyddus—ac y mae'r pwyllgor yn arbennig o awyddus—i'w gweld yn digwydd yn y Senedd nesaf. Mae'r drefn bresennol yn rhywbeth a adawyd ar ôl yn sgil datganoli gweinyddol, fel y dywedodd Alun Davies, ac er bod hynny'n cael ei addasu a'i fireinio'n gymedrol—a chyfeiriodd y Gweinidog, wrth gwrs, at y ddadl ychwanegol y gallwn ei chael yn awr cyn y toriad—byddwn yn cyferbynnu hynny â'r broses yn yr Alban, lle ceir ystyriaeth strategol drwy gydol y flwyddyn o'r gyllideb. Mae pwyllgorau'n cyhoeddi adroddiadau rhag-gyllidebol ym mis Hydref, cyn i'r Llywodraeth gyflwyno cyllideb, ac yna mae angen i'r Llywodraeth ymateb i'r adroddiadau hynny wrth iddi gyhoeddi cyllideb. A chyn Cyfnod 1 y gyllideb, mae cynullyddion neu gadeiryddion pwyllgorau yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn, ac yna, wrth gwrs, nid yn gymaint mewn gwelliannau y bydd y dylanwad hwnnw'n cael ei gyflwyno, oherwydd os yw'r Llywodraeth yn gwrando, ymdrinnir â llawer o hynny cyn inni gyrraedd pwynt lle mae angen cyflwyno newidiadau a gwelliannau. Felly, mae llawer y gallwn ei ddysgu gan yr Alban, ac mae'r Gweinidog yn iawn: mae hyblygrwydd yn bwysig. Rydym wedi dysgu hynny yn y blynyddoedd diwethaf, onid ydym? Yn sicr, mae cael yr ystwythder hwnnw o fewn y system yn bwysig. Ydy, mae'r system sydd gennym yn awr yn gymharol ystwyth ac mae'n debyg ei bod yn ein gwasanaethu'n eithaf da yn hynny o beth, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu na ellir ei wneud gan ddefnyddio dull deddfwriaethol hefyd, a dyna'n union y gobeithiaf y caiff ei archwilio wrth inni symud, gobeithio, at y cam nesaf yn y drafodaeth hon a chreu grŵp, gobeithio, i ystyried hyn ymhellach.
Rydym wedi dod yn bell, wrth gwrs, ers dechrau datganoli yn 1999, gyda mwy o bwerau i'r Llywodraeth a'r Senedd, y pwerau i osod cyfraddau treth yma yng Nghymru ac yn y blaen, ac mae'n bwysig fod y ffordd rydym yn pasio cyllideb yn adlewyrchu'r newidiadau hynny. Mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern, mae'n allweddol fod Senedd yn dwyn Llywodraeth i gyfrif yn briodol, yn enwedig mewn perthynas â'i chynlluniau gwariant a'i lefelau treth. Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl bob dydd ac rydym am sicrhau bod y broses yn addas ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y broses yn syml, yn dryloyw, a bod y Llywodraeth yn wirioneddol atebol i'r Aelodau o'r Senedd ac yn sgil hynny i bobl Cymru. Bydd bwrw ymlaen â gwaith ar broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn fater, fel y dywedais, ar gyfer y Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyllid yn sylfaen ar gyfer parhau â'r gwaith hwn. Diolch.