Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. Mae wedi rhoi cyfle gwerthfawr iawn i fyfyrio ar y newidiadau i broses y gyllideb yn ystod y weinyddiaeth hon, ac mae hefyd wedi dangos sut y mae'r gwaith da rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Cyllid dros flynyddoedd lawer wedi gwella proses y gyllideb yng Nghymru.
Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r cynnydd yng nghyfrifoldebau cyllidol y Senedd dros dymor y Senedd hon. Y mwyaf arwyddocaol o'r rhain oedd datganoli pwerau treth, a arweiniodd at brotocol y broses gyllidebol y cytunwyd arno ar y cyd yn 2017. Fel rhan o'r ddadl hon, mae'n iawn hefyd ein bod yn ystyried addasrwydd y trefniadau presennol, yn enwedig o ystyried y ffordd y mae angen i'r prosesau hyn ymateb i'r amgylchiadau sydd wedi effeithio ar ein paratoadau ar gyfer y gyllideb yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cyn i mi ymateb i'r pwyntiau am ddeddfwriaeth, rwyf am ganolbwyntio ar hyblygrwydd, oherwydd mae hyblygrwydd yn ofyniad pwysig ar gyfer proses gyllidebol. Mae'n adlewyrchiad cadarnhaol o'n dull presennol o weithredu fod ein protocol 2017 y cytunwyd arno ar y cyd, er gwaethaf yr amgylchiadau digynsail, wedi rhoi digon o hyblygrwydd i ni. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau nad yw'r cyfnod craffu cynyddol a gyflwynwyd gan y protocol—o bum wythnos i wyth wythnos—wedi'i beryglu'n ormodol, er gwaethaf yr amgylchiadau sydd wedi effeithio ar ein paratoadau.
Mewn cyferbyniad, mae proses ddeddfwriaethol yn cyflwyno cyfyngiadau amser ychwanegol, a allai effeithio ar hyblygrwydd a chraffu. O gofio bod Cymru a'r Alban ill dwy wedi wynebu'r un amgylchiadau, darllenais gyda diddordeb yr asesiad o'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer cyllideb yr Alban a byddwn yn dadlau bod ein protocol wedi darparu galluoedd cyfatebol i ymateb heb fod angen deddfwriaeth. Mae'n iawn, fodd bynnag, wrth i ni barhau â'r daith ddatganoli a cheisio mwy o gyfrifoldebau cyllidol, y dylem hefyd ystyried rôl bosibl deddfwriaeth megis Bil cyllideb neu Fil cyllid mwy cynhwysfawr.
Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio deddfwriaeth lle mae'n amlwg fod angen gwneud hynny. Rydym yn datblygu deddfwriaeth treth ar hyn o bryd i sicrhau bod gennym fecanwaith ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru ar fyr rybudd yn ôl y gofyn, tra'n caniatáu i'r Senedd graffu'n briodol. Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ystyriaeth o broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn erbyn yr anfanteision posibl, ac rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid fod angen archwilio'r risgiau hyn yn llawn er mwyn sicrhau nad ydym yn cael effaith andwyol ar ein gallu i roi sicrwydd ariannol i bartneriaid ac i randdeiliaid.
Ochr yn ochr â chraffu, rwy'n cydnabod pwysigrwydd galluogi'r Senedd i gael cyfle i ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau'r gyllideb yn gynharach yn y broses. Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau a gyflawnwyd heb fod angen deddfwriaeth, ac mae hyn yn cynnwys y cytundeb i gael dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf i ddylanwadu ar ein paratoadau cynnar, a byddwn yn croesawu trafodaethau pellach ar ba welliannau eraill y gellir eu gwneud i'n dull presennol.
Rydym hefyd wedi parhau i wella tryloywder drwy ddarparu mwy o fanylion a gwybodaeth ategol. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r camau rydym wedi'u cymryd i gyhoeddi ein cynlluniau a'n rhagolygon treth a benthyca. Rydym hefyd yn awr yn cyhoeddi adroddiad y prif economegydd; adroddiad polisi treth Cymru; rhagolygon ar gyfer trethi Cymru; taflen y gyllideb plant a phobl ifanc; cynllun gwella'r gyllideb; a thystiolaeth ysgrifenedig wedi'i chydgrynhoi ar gyfer pwyllgorau craffu'r Senedd. Mae hyn yn fwy nag a ddarperir mewn llawer o gyllidebau cenedlaethol eraill, gan gynnwys gwledydd lle mae ganddynt brosesau deddfwriaethol ar gyfer cyllidebau, ond wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i archwilio beth arall y gallwn ei wneud.
Mae darparu setliadau amlflwydd hefyd yn rhywbeth rydym wedi'i drafod droeon. Yn anffodus, mae ein gallu i ddarparu cyllid mwy hirdymor yn dibynnu i raddau helaeth ar gylch cyllideb Llywodraeth y DU ac i ba raddau y gallwn ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol o ystyried yr hinsawdd ariannol ac economaidd bresennol. Fel y cyfryw, ni fyddai proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn effeithio ar y mater hwn.
Felly, i grynhoi, mae'r ddadl heddiw wedi dangos bod llawer o fanteision wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn y gallwn ystyried eu datblygu heb fod angen deddfwriaeth. Fodd bynnag, ar y pwynt sylfaenol ynglŷn â chyllideb ddeddfwriaethol, ni chredwn fod manteision ychwanegol i ymgymryd â'r diwygiadau hyn wedi'u dangos eto, ond wedi dweud hynny, wrth gydnabod pwysigrwydd yr agenda fwy hirdymor hon, byddem yn agored i drafod yr opsiwn o broses adolygu, megis grŵp adolygu proses cyllideb yr Alban. Gyda'r Llywodraeth, y Senedd ac arbenigwyr allanol gwadd yn cymryd rhan, gellid cynnal adolygiad o fanteision a materion sy'n codi mewn perthynas â chyflwyno diwygiadau pellach i'n proses gyllidebol, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth.
Felly, wrth gloi, mae'r ddadl heddiw wedi rhoi cyfle pwysig i ystyried sut rydym yn parhau i sicrhau bod ein proses gyllidebol yn dryloyw ac yn gynhwysol. Diolch yn fawr.