Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 14 Hydref 2020.
Nawr, mae darnau o gynnig y Ceidwadwyr sy'n eithaf anodd anghytuno â hwy: er enghraifft,
'bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.'
Wel, wrth gwrs, y gwrthwyneb fyddai annog bod y cyfyngiadau'n anghymesur, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Ond gofynnaf i Aelodau Ceidwadol y Senedd hon: yn gymesur â beth? Rwy'n tybio bod hynny'n golygu bod yn gymesur â maint her y pandemig gan gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i ddiogelu swyddi; y cydbwysedd rhwng diogelu bywydau a diogelu bywoliaeth. Nawr, afraid dweud fy mod yn cytuno na allwch anghytuno â hynny, ond dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Llafur, sy'n nodi
'bod Llywodraeth Cymru'n dyrannu mwy na £4 biliwn i'w hymateb i COVID-19, sy'n swm uwch na'r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.'
Soniodd cynnig y Ceidwadwyr am gyfraniad Llywodraeth y DU wrth gwrs, ond rywsut anghofiodd sôn am gyfraniad ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'r cynnig Llafur hefyd yn cydnabod yn gywir y pecyn gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru o gymorth COVID-19 i fusnesau, sef y gorau yn unman yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, sy'n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi. Methodd cynnig y Ceidwadwyr sôn am hyn; mae'n gamgymeriad anffodus.
Rywsut, fe wnaethant anghofio nodi hefyd, heb sôn am groesawu, cynlluniau £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, gan gynnwys £20 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch, na nodi bod busnesau Cymru sy'n parhau i fasnachu yn gallu cael cymorth o dan gronfa ymateb cyflym cam 3 y gronfa cadernid economaidd, ac nid yw hynny'n digwydd mewn perthynas â chymorth busnes mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yn Lloegr. Felly, diolch byth fod y cynnig Llafur yn cywiro'r amryfusedd ychwanegol hwn gan y Ceidwadwyr, ac y bydd Darren a'i gyd-Aelodau yn gallu pleidleisio gyda'r meinciau Llafur wrth inni ddarparu cofnod cywir o'r gefnogaeth lawn i fusnesau yng Nghymru mewn cyfnod eithriadol o anodd.
Ond mae gennyf fusnesau a chyflogwyr o hyd nad ydynt yn gallu cael cymorth gan unrhyw un o'r cynlluniau sydd ar gael ar lefel genedlaethol, y DU, Cymru na'r lefel leol, a dyna pam fy mod eisiau i Lywodraeth y DU—oherwydd does bosibl nad dyma yw diben Llywodraeth y DU ar adegau o argyfwng ar draws y DU fel hwn—estyn yn ddyfnach i bocedi'r Trysorlys i roi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd wedi syrthio i'r craciau, a byddai hynny'n cynnwys y rhai sydd ychydig bach y tu allan i feini prawf cynlluniau presennol y DU a Chymru. Felly, Weinidog, byddaf yn parhau i ddod ag achosion unigol atoch i geisio addasiadau yma ac ar lefel y DU. Er enghraifft, mae fy etholwr Chris sy'n rhedeg campfa, campfa fach, wedi gwylio tri chylch o gynllun y gronfa cadernid economaidd yn mynd heibio mewn rhwystredigaeth, oherwydd bob tro y mae'n gweithio ei ffordd drwy'r ffurflen gyfrifiadurol, mae'n cyrraedd y darn sy'n dweud bod yn rhaid iddo gael trosiant o £50,000 ac mae ei drosiant yn £46,000 mewn gwirionedd, ac mae'r cyfrifiadur yn dweud 'na'. Felly, hoffwn weld y cynlluniau hyn yn ymestyn eu cyrhaeddiad gyda chyllid i bobl fel Chris.
Felly, yn hyn o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad mewn gwirionedd â rhai o welliannau Siân Gwenllian, ond gofynnaf i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd y meini prawf hyn yng Nghymru yn cael eu hadolygu'n gyson i gyfateb i anghenion ac adborth yng Nghymru gan Aelodau o'r Senedd yn yr holl bleidiau. A byddwn yn cefnogi'r alwad ar Lywodraeth y DU gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Lafur y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol yn amodol ar gyfyngiadau ychwanegol i fynd i'r afael â'r feirws. A hyd yn oed ar yr adeg hwyr iawn hon, byddwn yn ymuno â'r Llywodraeth hon yng Nghymru a Llafur y DU i annog Boris Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak i ailystyried eu penderfyniad i derfynu'r cynllun cadw swyddi, gan nad yw'r cynllun cymorth swyddi newydd a ddaeth yn ei le yn rhoi digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng hwn, gan gynnwys, gyda llaw, i gyd-Aelodau yng ngogledd Cymru, y rhai mewn twristiaeth a lletygarwch, sy'n effeithio arnom ni hefyd. Ac ar y sail honno, ac ar y sail fod cynnig y Llywodraeth yn cefnogi ymagwedd foesegol tuag at bartneriaeth mewn busnes, gan roi gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru gyda phob un sy'n derbyn cymorth busnes yn ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd, rwy'n cefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon, ac yn annog eraill i wneud hynny.