Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd. Dylwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma a dweud fy mod yn falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol, gyda llywodraeth leol, gyda Banc Datblygu Cymru, wedi'i wneud i gefnogi busnesau, i gefnogi cymunedau ac i gefnogi pobl sy'n gweithio drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn i fusnesau ac i swyddi yng Nghymru yw'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau, gan ddiogelu dros 100,000 o swyddi—swyddi y gellid bod wedi'u colli pe bai'r busnesau hynny wedi'u lleoli dros y ffin yn Lloegr, lle nad oes cymorth o'r fath yn bodoli.
Rydym hefyd wedi cefnogi 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru—busnesau newydd a fyddai wedi mynd i'r wal o bosibl pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr. Ac rydym wedi rhoi amryw o fesurau eraill ar waith, Lywydd, gan gynnwys seibiant ad-dalu i Fanc Datblygu Cymru, gwarchodaeth rhag troi allan i fusnesau, a chymorth i weithwyr proffesiynol creadigol—mae'r cyfan yn gymorth nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr.
Nawr, Lywydd, mae'r feirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr. O ran cyfyngiadau ar fusnesau, mae'r dystiolaeth yn awgrymu po hwyraf y gweithredwch, yr hiraf y bydd raid i'r cyfyngiadau aros yn eu lle, ac o ganlyniad, y mwyaf fydd y niwed i fusnesau, i'r economi, i fywydau pobl, gyda mwy o farwolaethau a mwy o ddioddefaint. A rhaid imi ddweud heddiw fod cymharu ein gweithredoedd fel Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd, sy'n gyfrifol am achub bywydau, a'n cymharu ag ymddygiad unbeniaethau ffasgaidd bron mor anwybodus ag y mae'n sarhaus. Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau presennol yn gyson a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, yn ogystal ag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol a'r GIG i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf.
Gadewch imi atgoffa'r Aelodau Ceidwadol yn y gogledd heddiw fod arweinwyr awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cytuno i'r cyfyngiadau lleol hynny. Felly, a fyddant yn beirniadu arweinwyr yr awdurdodau lleol hynny fel y maent yn beirniadu Llywodraeth Cymru? A fyddant yn beirniadu arweinwyr yr heddlu? A fyddant yn beirniadu'r arweinwyr iechyd sydd hefyd wedi cytuno iddynt? Rwy'n amau hynny, Lywydd, ond mae'r gwahoddiad yno iddynt wneud hynny yn eu hymateb.
Lywydd, rydym yn parhau i baratoi ar gyfer agor trydydd cam y gronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru'n unig yr wythnos nesaf. Mae'n cynnwys £80 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, yn ogystal â'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol gwerth £60 miliwn. Gadewch imi bwysleisio, Lywydd, fod £20 miliwn o'r grantiau datblygu busnes yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, gyda disgresiwn i ddyfarnu grantiau 100 y cant heb fod angen arian cyfatebol. Felly, rydym eisoes yn gwneud yr hyn y mae un o'r pwyntiau yng nghynnig y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn galw amdano. Gadewch inni fod yn gwbl glir eto: arian grant yw hwn nad yw ar gael i fusnesau twristiaeth a lletygarwch dros y ffin yn Lloegr.
Bydd y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol yn agor ar gyfer ceisiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili erbyn diwedd yr wythnos hon. Yn wahanol i Loegr, gall busnesau sy'n parhau i fasnachu gael cymorth. Gwn fod busnesau yng Nghymru wedi gwerthfawrogi'r cymorth ychwanegol hwn nad yw ar gael dros y ffin yn Lloegr, ond daw â chyfrifoldebau yn ei sgil, wrth gwrs. Arian trethdalwyr yw hwn sy'n cael ei ddefnyddio. Dyma arian gan bobl sy'n gweithio a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi busnesau.
Mae pob busnes sy'n cael cymorth o'n cronfa cadernid economaidd wedi ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd. Mae hynny'n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, hyd yn oed ar yr adegau anoddaf; hyrwyddo gwaith teg, yr ymddengys bod y Ceidwadwyr heddiw mor amlwg yn ei wrthwynebu, mae arnaf ofn; yn ogystal â hyrwyddo gwell iechyd meddwl, hyrwyddo sgiliau, a hyrwyddo twf glân a gwyrdd. Nid ydym yn ymddiheuro am hyn, nac am ein dull partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig.
Lywydd, rydym eisoes wedi cael mwy na 18,000 o ymholiadau am gymorth yn nhrydydd cyfnod y gronfa cadernid economaidd, ond hoffwn dynnu sylw hefyd at ba mor effeithiol y bu un arall o'n sefydliadau yn ystod y pandemig hwn. Ers dechrau'r argyfwng hwn, mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud 1,335 o fenthyciadau busnes COVID-19 Cymru i gwmnïau yng Nghymru. Mewn cymhariaeth, mae holl fanciau'r stryd fawr yng Nghymru—pob un ohonynt gyda'i gilydd—wedi gweinyddu, ar ran Llywodraeth y DU, 1,391 o fenthyciadau hyd at yr wythnos diwethaf. Mae'n golygu bod ein Banc Datblygu yng Nghymru wedi bod yr un mor bwysig â'r holl bŵer benthyca a gynigir gan holl fanciau'r stryd fawr a Llywodraeth y DU. Felly, rwy'n hynod falch o'r hyn y mae Banc Datblygu Cymru wedi'i wneud drwy'r misoedd diwethaf hyn, ac yn falch o gyflymder eu gweithredoedd a'u creadigrwydd.
Ond fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rhaid i Lywodraeth y DU roi mwy o gymorth ar y bwrdd i gefnogi busnesau a swyddi wrth inni fynd i mewn i fisoedd anodd y gaeaf. Dyna pam rwy'n gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu'r cynllun cadw swyddi. Mae'n amlwg nad yw'r cynllun a ddaeth yn ei le, y cynllun cymorth swyddi, yn cynnig digon o gymhelliant i gyflogwyr yn y sectorau mwyaf agored i niwed gadw gweithwyr drwy'r argyfwng, gan gynnwys, yn hollbwysig, busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch.
Rydym hefyd yn dal yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n ceisiadau parhaus iddi ddarparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i ymateb a buddsoddi yn adferiad Cymru, yn benodol, newid adnoddau cyfalaf yn refeniw, gan gynyddu cronfa wrth gefn Cymru a'n pŵer benthyca i'w wneud fel yr amlinellodd Helen Mary Jones. Ac o ran y gronfa ffyniant gyffredin, wel, cynnydd bychan iawn a wnaed gyda'r gronfa honno yn ôl Aelod Ceidwadol blaenllaw o Senedd y DU, er gwaethaf y brys amlwg i gyflwyno cynlluniau ar gyfer arian yn lle cyllid yr UE.
Lywydd, fel rwyf wedi dweud, mae hwn yn gyfnod na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Mae'r coronafeirws a'r risg gynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi rhoi pwysau anhygoel ar bawb—busnesau, unigolion a theuluoedd. Mae arnom angen Llywodraeth y DU ac mae arnom angen i'n cyd-Aelodau ar draws y Siambr ein cefnogi ni, Lywodraeth Cymru, i ddarparu'r adnoddau a'r sicrwydd y mae ein busnesau a'n cymunedau ei angen ar yr adeg y maent fwyaf o'i angen.