Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Hydref 2020.
Byddaf yn bendant yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Yn wir, mae gennyf gyfarfod cyllid pedairochrog gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach y prynhawn yma, lle byddaf yn gwneud yr union bwynt hwnnw am y newid o'r cynllun cadw swyddi i'r cynllun cefnogi swyddi. Mae'n creu anawsterau diangen i fusnesau yng Nghymru, lle bydd angen iddynt wneud cais i ddau gynllun gwahanol dros gyfnod o bythefnos er mwyn darparu'r cymorth y mae eu staff ei angen. Ac mae'n amlwg fod yna broblem wirioneddol gyda maint y cymorth sydd bellach ar gael ar gyfer pob un o'r swyddi hynny a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu pa fath o swyddi sy'n swyddi hyfyw. Mae sectorau cyfan ar eu colled o ganlyniad i hynny. Mae sector y celfyddydau yn un ohonynt. Ond a gaf fi roi sicrwydd i fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies y byddaf yn codi'r union fater hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma.