Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Hydref 2020.
Weinidog, mae pobl ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth ym Mlaenau Gwent, yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi busnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod cannoedd o fusnesau yn fy etholaeth i wedi cael cymorth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod y pecyn mwyaf o gymorth busnes yn unman yn y DU yn rhywbeth sydd eisoes wedi diogelu llawer o swyddi. Ond fel y nodwyd eisoes gan ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies, mae rhai o'r busnesau lleiaf yn enwedig yn syrthio drwy rai o'r bylchau sydd ar gael. Rwy'n meddwl am yrwyr tacsi, er enghraifft, ac rwy'n meddwl am bobl sy'n gweithio fel masnachwyr er mwyn eu cefnogi hwy a'u teuluoedd nad ydynt yn gweithio o fewn strwythur corfforaethol ffurfiol, os mynnwch. Weinidog, a yw'n bosibl sicrhau bod yr arian gennym i gefnogi'r bobl hyn sy'n anadl einioes i economi leol?