Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:51, 21 Hydref 2020

A dyna'r pwynt dwi'n ei wneud yn fan hyn: dydy hwn ddim yn rhywbeth sydd yn mynd i fod drosodd yn fuan. Mae eisiau edrych ar hyn fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.

Un cwestiwn olaf, eto ynglŷn â llywodraeth leol, ac eto ynglŷn â'r hirdymor. Dwi'n croesawu cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu i helpu busnesau yn uniongyrchol. Dwi'n dal yn gwthio am ragor o gymorth, yn arbennig i rai sectorau sy'n cael eu hitio yn arbennig o galed, a'r rhai sy'n dal yn llithro drwy'r rhwyd, wrth gwrs. Ond pan ddaw hi at y gwaith o adeiladu yr economi, ydy, mae help i'r busnesau unigol yn bwysig, ond hefyd mae'r cynllunio a'r datblygu economaidd fydd yn digwydd ar lawr gwlad yn mynd i fod yn bwysig, ac mae llywodraeth leol yn mynd i fod yn allweddol ac yn mynd i fod angen adnoddau er mwyn gallu gwneud y math yna o ddelifro datblygu economaidd yn lleol. A gawn ni amlinelliad o'r lefel o gefnogaeth datblygu economaidd y gall cynghorau ei disgwyl? Achos mae'r cynghorau'n nabod yr ardaloedd maen nhw'n eu gwasanaethu a'r cyfleon fydd yn codi wrth ailadeiladu.