Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Hydref 2020.
Fe wnaf yr hyn a allaf yn hynny o beth, Weinidog. Mae'n amlwg y bydd y cyfnod atal byr yn cael effaith ariannol sylweddol ar fusnesau a chyflogwyr ledled Cymru. Rydych wedi sôn am yr angen i gydweithredu â Llywodraeth y DU. Ymddengys bellach fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwybod bod cyfnod atal byr yn dod ddydd Mercher diwethaf, ac eto ni ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Canghellor tan ddydd Gwener. Erbyn hynny, roedd eisoes yn glir na ellid cyflwyno'r cynllun cefnogi swyddi yng Nghymru yn gynharach nag a gynlluniwyd. Sut y sicrhewch yn awr fod cyllid digonol ar gael i lenwi unrhyw fylchau fel nad yw busnesau Cymru'n gorfod llenwi'r bwlch cyflog eu hunain yn y pen draw, neu yn y senario waethaf, yn diswyddo gweithwyr?