Cymorth i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:44, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am ddarparu enghraifft arall o fusnes nad yw wedi gallu cael cyllid hyd yma. Yn amlwg, nid wyf am roi'r argraff y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi pob busnes yng Nghymru, oherwydd nid yw'r cyllid sydd gennym yn ddigon ar gyfer hynny. Felly, rwyf am fod yn realistig, ond ar yr un pryd, rwyf am adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi rhoi ystyriaeth drylwyr i'r materion a gyflwynwyd gennych chi ac eraill mewn perthynas ag unigolion sy'n rhedeg busnesau sydd wedi syrthio drwy'r bylchau yn y cymorth hyd yma. A dyna pam y mae'r elfen ddewisol hon mor bwysig, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn cael y cyngor a'r arweiniad i awdurdodau lleol yn iawn er mwyn eu galluogi i gefnogi'r busnesau sy'n aml yn bwysig iawn yn lleol.