Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch. Rwy'n cytuno gyda chi ar y pwynt olaf hwnnw, Weinidog; yn sicr nid yw'n sefyllfa foddhaol. Mae Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud ei bod yn ymddangos yn bosibl iawn fod rhai pobl yn syrthio drwy'r craciau rhwng y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cefnogi swyddi, ac mae Ben Cottam o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud mae faint o ddryswch sy'n gysylltiedig â hyn...yn dangos pa mor gymhleth y gall hyn i gyd fod i gyflogwr bach yng Nghymru.
Gan edrych tua'r dyfodol nawr, addawyd mynediad i fusnesau at hyd at £5,000 yr un o gyllid mewn rhai achosion drwy'r pecyn cymorth presennol sydd ar gael. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidog yr economi i sicrhau bod yr arian hwn ar gael i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl?