Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:53, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, mae'r rhain yn amseroedd pryderus i fusnesau Cymru ac i weithwyr ledled Cymru gyda'r pandemig sy'n mynd rhagddo. Pa asesiad a wnaethoch o'r costau ariannol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod atal byr sydd ar fin digwydd, ac a ydych wedi ystyried cost unrhyw gyfyngiadau symud posibl yn y dyfodol hefyd—cyfyngiadau ar sail dreigl?