Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Hydref 2020.
Os ydy'n wir, fel oeddech chi wedi dweud gynnau mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, fod y cyllid sydd eisoes yno o ran y gronfa caledi yn ddigonol tan ddiwedd y flwyddyn, pam mae cyngor sir Caerffili wedi dweud heddiw fod yna
'ansicrwydd mawr am arian ychwanegol' yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol cyfredol a Chyngor Sir Ceredigion yn dweud nad yw hi'n
'gwbl glir beth yw gwerth cyllid Covid-19 Llywodraeth Cymru, pa feysydd a ariennir, sy'n golygu bod hi'n anodd gwneud rhagolygon ariannol'?
Oni ddylai chi wneud beth mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud wythnos diwethaf, sef cynnig pecyn o gyllid ychwanegol sydd yn werth £750 miliwn yn ychwanegol i gynghorau lleol yn yr Alban?