Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Hydref 2020.
Weinidog, ar 17 Awst eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru hwb ariannol o fwy na £216 miliwn i gynghorau lleol yng Nghymru i roi iddynt y sicrwydd y maent ei angen i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac mae'n siomedig o ran yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst yn golygu bod cyfanswm cymorth COVID-19 Llywodraeth Lafur Cymru i awdurdodau lleol bron yn £0.5 biliwn. Weinidog, pa neges y mae hyn yn ei hanfon at fy etholwyr yn Islwyn am yr ymrwymiad y mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ei roi i awdurdodau lleol, megis awdurdod bwrdeistref sirol Caerffili, lle mae arweinwyr Llafur fel Philippa Marsden yn arwain ymatebion eu cymuned i'r pandemig byd-eang digynsail hwn?