Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Hydref 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o fesurau i gefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys bron i £300 miliwn sydd bellach ar gael i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod atal byr. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau a gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anghenion pobl yng Nghymru.