Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:48, 21 Hydref 2020

Diolch am yr ateb yna, ac, wrth gwrs, dwi'n cyd-fynd efo'r Gweinidog o ran y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen efo adolygiad gwariant cynhwysfawr ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'n brawf unwaith eto, i mi, nad ydy San Steffan a Whitehall yn gweithio i Gymru—maen nhw'n gweithio i San Steffan ac i Whitehall.

Yn parhau efo llywodraeth leol, un elfen sydd wedi taro llywodraeth leol, wrth gwrs, ydy colled incwm. Mae'n taro gwahanol awdurdodau lleol mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y math o elfennau sydd ganddyn nhw o fewn eu portffolios sydd yn dod ag incwm i mewn. Ond, wrth gwrs, mae colled incwm ar lefel llywodraeth leol yn cael effaith uniongyrchol ar bawb trwy'r dreth gyngor yn y pen draw, o bosib, ond yn sicr o ran cynaliadwyedd y gwasanaethau y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw. Felly, ydy'r Llywodraeth yn gallu rhoi sicrwydd y bydd digolledu yn digwydd o ran y golled incwm i lywodraeth lleol—a nid yn unig rŵan, wrth gwrs, ond mi fydd yna incwm a fydd yn cael ei golli am fisoedd lawer eto oherwydd natur y pandemig rydym ni'n byw drwyddo fo?