Ariannu Gwaith Adfer yn Dilyn Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:18, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i groesawu'n fawr, yn enwedig y cyllid 100 y cant ar gyfer gwaith paratoi yn sgil difrod llifogydd mis Chwefror. Bythefnos yn ôl, gofynnais am yr addewid a wnaeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai arian yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru ar gyfer y difrod llifogydd a ddigwyddodd. Mae asesiad Rhondda Cynon Taf oddeutu £70 miliwn, ac wrth gwrs mae mater yn codi ynghylch ariannu'r gwaith sydd angen ei wneud i sefydlogi a gweithio ar domenni glo. Weinidog, a ydych wedi cael unrhyw arwydd eto gan Lywodraeth y DU y bydd yr arian a addawyd yn dod er mwyn galluogi Rhondda Cynon Taf i wneud y gwaith atgyweirio seilwaith y mae cymaint o'i angen?