Datganiadau Ariannol Biliau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:21, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y wybodaeth honno, oherwydd nid ydym yn cael llawer iawn o amser ar gyfer craffu ar ôl deddfu yma yn y Senedd hon, a gall olrhain y costau parhaus y gellir eu priodoli i ddeddfwriaeth fod yn anodd iawn, yn enwedig ar hyn o bryd pan na chawn gyfle i graffu cyn deddfu ar gost rheoliadau. A allwch gadarnhau am ba hyd y mae costau canlyniadau yn denu ar ôl i wahanol rannau o'r statudau a'r rheoliadau ddod i rym? A phryd y bwriadwch gyhoeddi datganiad cynhwysfawr ar gostau'r Ddeddf coronafeirws a'r rheoliadau COVID a gyflwynwyd oddi tani?