Canolfannau Addysg Awyr Agored

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:28, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Russell. Rwy'n cydymdeimlo â'r her a wynebir gan ganolfannau addysg awyr agored oherwydd y pandemig. Mae ein canllawiau presennol yn cynghori yn erbyn teithiau ysgol preswyl domestig, ond mae'n caniatáu teithiau dydd amhreswyl domestig. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu'n barhaus a bydd y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf yn llywio'r wybodaeth ddiweddaraf.