Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 21 Hydref 2020.
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r dystiolaeth sydd wedi'i chynnwys ym mhapur y gell cyngor technegol sy'n sôn am gyfraniad cau ysgolion yn eu cyfanrwydd a chau ysgolion uwchradd yn benodol i leihau rhif R. Drwy gydol y pandemig hwn, rwyf wedi ceisio lleihau'r aflonyddwch i blant a sicrhau'r addysg orau bosibl. Mae'n peri pryder mawr i'r plant hynny ym mlynyddoedd 9 ac uwch fod y penderfyniad hwn wedi'i wneud, ond fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, mae'r rhan hon o'r garfan yn y sefyllfa orau i allu cymryd rhan mewn dysgu hunangyfeiriedig a dysgu o bell. A thrwy gyfyngu ar y feirws ledled Cymru a lleihau cyfraddau trosglwyddo cymunedol, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cyfyngu ar yr aflonyddwch i addysg wrth inni anelu at ddiwedd y tymor hwn.