Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch. Nid wyf yn bychanu'r dasg i benaethiaid ysgolion uwchradd, yn arbennig, o ad-drefnu cynlluniau, amserlenni ac amseroedd presenoldeb ysgolion er mwyn cydymffurfio â'r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid. Ond nid wyf yn credu y gall fod unrhyw gyfiawnhad dros anfon cannoedd o ddisgyblion adref i hunanynysu oherwydd bod un unigolyn wedi cael canlyniad positif. Anfonwyd 553 o blant adref o ddwy ysgol yn unig yng Nghaerdydd wythnos yn ôl, a hynny oherwydd bod un achos positif yn y ddwy ysgol. Nid wyf yn credu bod hynny'n gymesur. Pam fod penaethiaid yn dal i fod mewn sefyllfa lle maent yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond anfon cynifer o ddisgyblion adref? Ac a ydynt angen amddiffyniad y gyfraith er mwyn rhoi hyder iddynt ynysu niferoedd llai?