Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Hydref 2020.
Wrth gwrs. Gallaf roi sicrwydd llwyr i chi, Angela, y byddwn, wrth ddod i gasgliad ynglŷn ag arholiadau haf 2021, yn gwbl ymwybodol o anghenion y dysgwyr hynny, dysgwyr y mae rhai ohonynt wedi dioddef hyd yn oed mwy o aflonyddwch i'w dysgu nag eraill, a sut rydym yn cynnig system sy'n deg i bob dysgwr ac sy'n cydnabod yr effaith anghymesur y gallai COVID fod wedi'i chael, heb unrhyw fai ar athrawon. Oherwydd, hyd yn oed gyda TG ac offer ychwanegol, gall materion eraill yn y cartref lesteirio gallu plentyn i gymryd rhan mewn peth o hynny weithiau. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi y bydd lles dysgwyr ar flaen fy meddwl, gan gydnabod yr aflonyddwch sylweddol y mae'r plant hynny wedi'i wynebu heb fod unrhyw fai arnynt hwy.