Llywodraeth Cymru ac Adeilad Tŷ Hywel

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:19, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Andrew R.T. am y cwestiwn hwnnw? Y sefyllfa yw bod gan Lywodraeth Cymru is-les i feddiannu swyddfeydd ar bumed llawr ac ail lawr Tŷ Hywel. Mae'r is-les yn cynnwys defnyddio cyfleusterau a rennir, gan gynnwys mannau parcio ceir, ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, cyfleusterau ffreutur ac arlwyo, storio beiciau, mannau gwefru cerbydau trydan ac yn olaf, gwasanaethau ystafell y post.