Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr. Dwi'n gwerthfawrogi'r ateb yna gan y Llywydd, a dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud. Dwi eisiau bod mewn sefyllfa ble, os oes yn rhaid inni newid y gyfraith, ein bod ni'n gwneud hynny ymlaen llaw. Dwi'n awyddus iawn, iawn, iawn i sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl ddewisiadau a fydd gennym ni, yr opsiynau y byddwn ni, efallai, yn eu hwynebu ym mis Mai, a bod pob un peth wedi cael ei wneud—os oes yn rhaid newid y gyfraith, os oes yn rhaid gwneud trefniadau, beth bynnag ydyn nhw, fod y Comisiwn yn ran o hynny. Dwi'n deall y sefyllfa gyda swyddogion awdurdodau lleol ac yn y blaen, ond dwi eisiau bod yn sicr bod gennym ni bob peth yn ei le so bydd dim byd yn rhwystro'r etholiadau rhag cymryd lle ym mis Mai.