Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddweud 'diolch' wrth yr holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl, ond yn enwedig i Alun Davies a Mick Antoniw am rannu eu profiad personol. Yn yr un modd â'r wythnos diwethaf a'r ddadl ar endometriosis, credaf ei fod yn bwerus—nid yn unig i Aelodau eraill, ond i'r cyhoedd sy'n gwylio—pan fo Aelodau'n rhannu eu profiad eu hunain o'r materion sy'n cael eu trafod. Gwnaeth Suzy Davies hynny'n effeithiol iawn yr wythnos diwethaf, ac eto heddiw gydag Alun Davies a Mick Antoniw. Ac ar bwynt penodol Mick am waith cynnal a chadw—mae hynny'n cael ei gynnwys yn y gwaith rwy'n mynd i'w ddisgrifio'n fanylach, oherwydd mae'n iawn, mae'n ymwneud â mwy na chael rhagor o ddiffibrilwyr, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol yn ogystal â'u bod yn gwbl hygyrch. Ac rwy'n wirioneddol falch, wrth gwrs, fod Alun yn un o'r 3 y cant sy'n goroesi. Mae pob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd yn y Siambr rithwir hon, am weld mwy o oroeswyr yn y dyfodol. Yr unig gwestiwn go iawn yw sut.
Nawr, gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i wella gobaith pobl o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Felly, i gefnogi'r nod hwnnw, ym mis Mehefin 2017 lansiais gynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru. Roedd hwnnw'n gynllun uchelgeisiol i weld y cyhoedd, y trydydd sector, y gwasanaethau brys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio i ymateb i bobl sy'n cael ataliad y galon yn y gymuned. Mae'n ffaith drist, fel yr amlinellodd Alun, fod gobaith claf o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng tua 10 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae potensial gwirioneddol i achub llawer mwy o fywydau, fel y dangoswyd yn nifer y gwledydd sy'n cymryd camau gweithredol i wella pob cam yn yr hyn a elwir yn 'gadwyn oroesi'.
Mae'n werth ystyried hefyd mai'r man cychwyn fyddai pe gallem osgoi ataliad y galon yn y lle cyntaf, drwy wella ein hiechyd cyhoeddus ehangach. Ni ddylem anghofio'r dadleuon a gawn yma am ymarfer corff, am ysmygu, am alcohol a chario pwysau iach. Roeddwn yn falch o glywed Suzy Davies yn sôn am Ddenmarc: mae'n rhan o'r byd lle mae gennyf deulu, ac mae rhan o'r her o ddeall pam y ceir canlyniadau gwahanol iawn yn Nenmarc yn ymwneud yn rhannol â'r ddarpariaeth y tu allan i'r ysbyty, ond maent yn dechrau mewn lle gwahanol iawn yn ddiwylliannol, ond maent hefyd yn dechrau mewn lle gwahanol iawn gyda chanlyniadau iechyd cyhoeddus llawer gwell hefyd. Ac felly ein her yw dysgu o bob rhan sut y maent yn goroesi ataliad y galon yn well mewn rhannau eraill o'r byd. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni gymryd camau ar y cyd i wella cyfraddau goroesi yma. Mae gwella canlyniadau yn galw am ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys gwybod yn gynnar beth sy'n digwydd a galw am gymorth i geisio atal ataliad y galon rhag digwydd—disgrifiodd Alun sut roedd pobl yn gwybod beth oedd yn digwydd a bod rhywun wedi galw am gymorth—darparu CPR yn gynnar i brynu amser i'r claf, diffibrilio cynnar i ailddechrau'r galon, wedyn y gofal ôl-ddadebru gorau posibl, sydd i gyd yn chwarae rhan i roi gofal o'r ansawdd gorau i bobl—y canlyniad gorau a'r potensial gorau am fywyd o ansawdd da wedyn. Rwy'n cydnabod bod y cynnydd yn arafach i ddechrau nag y byddwn i a'r Aelodau wedi'i hoffi, a bod y coronafeirws wedi effeithio arno, ond rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol serch hynny. Mae'r cynnydd yn cynnwys gwella llwybrau o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru a byrddau iechyd i sicrhau, pan ddaw galwad 999, fod pobl yn cael y cymorth angenrheidiol a'r gefnogaeth i gynyddu'r gobaith o oroesi cyn i'r parafeddyg gyrraedd y fan a chyn cludo'r claf i ysbyty priodol i gael triniaeth benodol.
Bu cynnydd cyson yn nifer y diffibrilwyr sydd wedi'u mapio yn y system anfon ambiwlansys yng Nghymru. Ar y cyfrif diwethaf sydd ar gael i mi, mae gennym bellach 5,042 o ddiffibrilwyr wedi'u cofrestru ledled Cymru ar gael i'r cyhoedd, a chofrestr ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty wedi'i sefydlu i fapio'n well y data sy'n ymwneud ag ataliadau'r galon y tu allan i'r ysbyty ar draws y llwybr cyfan o'r ataliad i driniaeth a rhyddhau o'r ysbyty—a gwn weithiau nad yw edrych ar ddata bob amser mor ddiddorol â hynny, ond mae'n bwysig iawn ar gyfer gwella'r system gyfan—a datblygu canllawiau Cymru gyfan ar gyfer hyfforddiant CPR a diffibrilio.
Sefydlais bartneriaeth Achub Bywyd Cymru ym mis Ionawr y llynedd, wedi’i chefnogi gan £586,000 o gyllid Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd. Lansiwyd y fenter honno yn Stadiwm Dinas Caerdydd, unwaith eto, oherwydd cafwyd ymrwymiad gan bobl ledled y ddinas a phrofiad hefyd o golli pobl o ataliad y galon. Ond rydym yn gweithio i adeiladu ar yr ymdrechion a wnaed eisoes gan y sefydliadau partner a ddisgrifiais eisoes yn y trydydd sector, ambiwlans Cymru, byrddau iechyd ac eraill. Mae partneriaeth Achub Bywyd Cymru bellach yn cydweithio mewn nifer o ffyrdd i ddeall sut y mae sefydliadau unigol o fewn y bartneriaeth yn gweithio—rhan o'n her yw nad yw pob un o'n partneriaid yn y trydydd sector yn ymwybodol o'r hyn y mae’r lleill yn ei wneud; nid yw pob un o feysydd ein system gyfan yn ymwybodol iawn o ble y gellir darparu cymorth—a gweithio gyda sefydliadau ieuenctid, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gwasanaethau cyhoeddus, prifysgolion a chyflogwyr i edrych ar gyfleoedd i gydweithio. Ddydd Gwener diwethaf, lansiodd y bartneriaeth ymgyrch newydd, Cyffwrdd â Bywyd. Mae honno’n gosod y sylfaen ar gyfer achub bywydau ledled Cymru. Fel rhan o'r ymgyrch, crëwyd fideo hyfforddi ar-lein am ddim—rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno, ond os nad ydynt, gobeithio y byddant yn gwneud hynny ar ôl y ddadl hon ac yn ei rannu. Mae Achub Bywyd Cymru yn annog pawb i dreulio ychydig funudau'n gwylio'r fideo hyfforddi a dysgu sut i achub bywyd rhywun.
Felly, gyda'n gilydd, rydym yn benderfynol o wella canlyniadau pobl sy'n dioddef ataliad y galon. Mae gennym gynllun ar waith nad yw wedi dod i ben ei rawd eto, ac fel y nodais, mae cynnydd gwirioneddol ynddo. Felly, er bod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â'r cynnig ac am weld y gwelliannau'n cael eu gwneud, nid wyf yn credu ar hyn o bryd fod angen deddfu yn y maes hwn na gosod dyletswyddau statudol ychwanegol ar sefydliadau. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth yn diystyru deddfwriaeth yn y dyfodol na chamau deddfwriaethol yn y dyfodol os na welwn y gwelliannau rydym i gyd am eu gweld o ran achub bywydau. Felly, bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw, yn hytrach na gwrthwynebu'r cynnig, a bydd gan bob aelod o’r meinciau cefn sy’n cefnogi’r Llywodraeth bleidlais rydd. Ac rwyf am ddweud fy mod yn credu bod hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol o ran sut rydym yn treulio ein hamser yn y Senedd yn trafod mater a mwy o ymwybyddiaeth. Edrychaf ymlaen at ganlyniad y bleidlais, ond yn bwysicach, at ganlyniad ein cynnydd fel gwlad yn achub mwy o fywydau.